
Gweinidog y DU yn gwrthod rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau gyda Llywodraeth Cymru
Yn ystod dadl ar y Mesur Cyllid (Finance Bill) ddydd Mercher (27 Tachwedd), cododd llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Ben Lake AS, ei bryderon am y straen ariannol fydd ar wasanaethau cyhoeddus yn sgil y cynnydd yng nghyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr.
Mae Awdurdodau Lleol Cymru yn wynebu cynnydd enfawr mewn costau oherwydd y cynnydd mewn Yswiriant Gwladol Cyflogwyr. Mae Cyngor Sir Ceredigion, yn etholaeth Mr Lake, yn wynebu cynnydd o dros £4 miliwn mewn costau oherwydd gostyngiad yn y trothwy treth incwm i £5000 ynghyd â’r cynnydd yng nghyfraniadau Yswiriant Gwladol y Cyflogwr.
Gofynnodd AS Ceredigion Preseli pryd y byddai Llywodraeth y DU yn cyhoeddi faint o arian fyddai’n cael ei ddarparu i Lywodraeth Cymru i lenwi’r diffyg a achoswyd gan y cynnydd yng nghyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr ar gyfer y sector cyhoeddus.
Ymatebodd Ysgrifennydd y Trysorlys i’r Trysorlys, James Murray AS, drwy ddweud:
“na fydd yn rhoi gwybodaeth fewnol am unrhyw drafodaethau parhaus rhwng y Trysorlys a’r Llywodraethau datganoledig”.
Ymatebodd Mr Lake drwy feirniadu Llywodraeth y DU am ddiffyg tryloywder a brys ar y mater.
Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd Ben Lake AS:
“Un o’r mesurau sy’n effeithio ar ddarpariaeth gwasanaethau cyhoeddus yw’r cynnydd yng nghyfraniadau yswiriant gwladol y cyflogwr.
“Rwy’n deall bod y Trysorlys yn cynnal trafodaethau gyda’r Llywodraethau datganoledig a Llywodraethau lleol ledled Lloegr i ganfod yn union faint o gymorth ariannol ychwanegol sydd ei angen i wrthbwyso’r costau uwch ar eu gwasanaethau.
“A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf inni am y trafodaethau hynny a phryd y mae’n credu y bydd awdurdodau lleol ac, yn wir, y Llywodraethau datganoledig yn gwybod faint o arian ychwanegol y byddant yn ei gael?”
Ymatebodd y Gweinidog, James Murray AS:
“Mae arnaf ofn na fyddaf yn rhannu gwybodaeth am unrhyw drafodaethau rhwng y Trysorlys a Llywodraethau datganoledig gyda'r gwr bonheddig. Mae'r polisi ar gyfer ad-dalu cynnydd yng nghyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr wedi'i hen sefydlu. Dilynodd y Llywodraeth ddiwethaf broses debyg mewn perthynas â’r ardoll iechyd a gofal cymdeithasol, lle mae Adrannau a gweithwyr yn y sector cyhoeddus fel arfer yn cael ad-daliad llawn, ble nad yw contractwyr a grwpiau trydydd parti yn derbyn yn yr un modd.
“O ran setliadau’r Llywodraethau datganoledig, mae ganddyn nhw eu proses eu hunain i fynd drwyddi gyda’r Trysorlys. Yr wyf yn siwr y bydd y gwr bonheddig yn deall pam na allaf roi sylwebaeth barhaus ar hynny, ond rwy’n siŵr y bydd ei gydweithwyr yn gwneud ymholiadau pellach ar hynny.”
Ar ôl y sesiwn, ychwanegodd Ben Lake AS:
“Ni fydd ateb y Gweinidog yn rhoi llawer o gysur i awdurdodau lleol ledled Cymru, nac yn wir weddill y DU, sy’n mynd i’r afael ag ansicrwydd cyllidebol.
“Mae'r diffyg eglurder ynghylch pryd y gellir cadarnhau cymorth ychwanegol ond yn gwaethygu’r heriau a wynebir gan wasanaethau cyhoeddus sydd eisoes dan straen aruthrol. Mae cymunedau’n haeddu sicrwydd na fydd gwasanaethau hanfodol yn cael eu peryglu ymhellach gan fylchau ariannu a achosir gan benderfyniadau polisi Llywodraeth y DU.
“Byddaf yn parhau i bwyso am fwy o dryloywder a brys ar ran pobl ledled Cymru sy’n dibynnu ar wasanaethau cyhoeddus.”