‘Os nad oes gan ardaloedd gwledig signal ffôn na linellau tir copr bellach, sut maen nhw fod i dderbyn gwybodaeth frys bwysig heb sôn am alw am gymorth?’
Yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw (dydd Mawrth 10 Rhagfyr), mae ASau Plaid Cymru wedi galw am adolygiad brys o fesurau gwrthsefyll wrth i Storm Darragh barhau i effeithio ar gysylltiad trydan a chyfathrebu cymunedau ledled Cymru wledig.
Yn ystod sesiwn Cwestiwn Brys a roddwyd i Blaid Cymru, mynegodd AS Ceredigion Preseli, Ben Lake, bryder mawr am y toriadau pŵer hirfaith, sydd wedi gadael trigolion heb wres, dŵr, na dulliau dibynadwy o gyfathrebu.
Diolchodd i beirianwyr am adfer pŵer i bobl a busnesau, a diolchodd i’r gwasanaethau brys ac awdurdodau lleol am glirio ffyrdd a darparu cymorth i gartrefi.
Pwysleisiodd Mr Lake bod y storm wedi “dangos yn gyflym iawn pa mor ddibynnol yw cyfleustodau allweddol eraill ar drydan: o gyflenwad gwresogi a dŵr i rwydweithiau ffonau symudol”, a nododd bod y newid diweddar o linellau copr i wasanaeth digidol mewn ardaloedd gwledig wedi ei gwneud hi'n anoddach i gyfathrebu yn ystod tywydd eithafol.
Dywedodd Ben Lake AS:
“Gadawodd y storm hon gannoedd o filoedd o gartrefi heb bŵer a tharfu ar ein isadeiledd hanfodol. Rydym i gyd yn ddiolchgar i’r peirianwyr sydd wedi gweithio’n ddiflino i adfer pŵer i dros 1.7 miliwn o bobl o dan amodau heriol iawn, a hoffwn hefyd dalu teyrnged i’r gwasanaethau brys ac awdurdodau lleol sydd wedi gweithio’n galed iawn i glirio ffyrdd a darparu cymorth i gartrefi lle bo modd.
“Fodd bynnag, rwy’n bryderus iawn am y miloedd o bobl sy’n dal heb drydan. Mae'r storm hon wedi amlygu pa mor ddibynnol yw cyfleustodau allweddol eraill ar drydan: o gyflenwad gwresogi a dŵr i rwydweithiau ffôn symudol. Mae’r pryder olaf yn fwy fwy perthnasol mewn ardaloedd gwledig gan bod llawer wedi colli eu llinellau copr yn y newid diweddar i ddigidol - system sy’n dibynnu ar y prif gyflenwad pŵer.”
Ychwanegodd Ben Lake AS:
“Bydd tywydd eithafol a digwyddiadau fel Storm Darragh yn digwydd yn amlach o ganlyniad i newid hinsawdd, ac mae hyn yn pwysleisio'r angen dybryd am fesurau amddiffyn cadarn, i sicrhau ein bod yn medru gwrthsefyll digwyddiadau fel hyn yn syth, yn gystal â chynllunio ar gyfer y dyfodol.
“Mae ein profiadau gyda Storm Darragh yn amlygu’r brys sydd ei angen i adolygu pa mor ddigonol yw’r trefniadau presennol: er enghraifft, os nad oes gan ardaloedd gwledig signal ffôn na linellau tir copr bellach, sut maen nhw fod i dderbyn gwybodaeth frys bwysig heb sôn am alw am gymorth?
“A fyddai’r Gweinidog felly’n barod i ymrwymo i adolygu’r trefniadau yn sgil y Storm hon, gan gynnwys edrych ar ba mor ddigonol yw’r Gofrestr 'Blaenoriaeth i Wasanaethau' i fynd i’r afael ag anghenion trigolion sy’n agored i niwed yn ystod toriadau pŵer eang, a sicrhau bod cyfleustodau allweddol yn gallu lliniaru effeithiau tywydd eithafol yn y dyfodol?”