Mae pob ardal, pob cymuned—yn wir, pob un o wledydd y Deyrnas Gyfunol—yn haeddu triniaeth gyfartal, felly mae’n hanfodol bod pob lefel o Lywodraeth yn gwneud eu gorau i sicrhau’r buddsoddiad a, lle bo angen, diwygio polisi i sicrhau bod ein cymunedau cefn gwlad yn gallu gyflawni eu potensial.
Cysylltedd digidol
Mae cysylltedd band eang a diffyg signal ffôn yn parhau i fod yn her aruthrol i economi wledig Cymru. Er ein bod wedi gweld gwelliannau enfawr mewn cysylltedd band eang ar draws Ceredigion a gogledd Sir Benfro yn y blynyddoedd diwethaf, mae llawer mwy eto i’w wneud.
https://youtu.be/o_jTdWLMFdg?si=KupYiHMC0Ak3ESnA
Trafnidiaeth gyhoeddus
Mae gwahaniaethau sylweddol rhwng gwasanaethau trafnidiaeth wledig yng Nghymru a’r hyn sydd ar gael mewn ardaloedd mwy trefol.
Mae ymchwil a wnaed gan Sustrans, Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru a Sefydliad Bevan, yn dangos bod diffyg trafnidiaeth gyhoeddus yn cyfrannu’n sylfaenol at dlodi mewn ardaloedd gwledig. Mae'n cyfyngu ar dwf economaidd ac yn ei gwneud yn llawer anoddach i bobl gael mynediad at wasanaethau hanfodol.
Mae toriadau i wasanaethau bysiau ledled Cymru, gan gynnwys y penderfyniad diweddar gan Lywodraeth Cymru i ddiddymu'r gwasanaeth Fflecsi Bwcabus wedi bod yn ergyd enfawr i’n cymunedau gwledig, gan wneud llawer o bobl yn fwy ynysig, yn fwy agored i niwed a heb fynediad at wasanaethau hanfodol.
Mae gwasanaethau rheilffordd Trafnidiaeth Cymru ar hyd Rheilffordd y Cambrian yn parhau i fod yn gwbl anfoddhaol ac yn destun cwynion ac aflonyddwch rheolaidd i lawer o deithwyr. Mae'n annerbyniol bod Rheilffordd y Cambrian bob amser yn ymddangos fel y rhan o'r rhwydwaith sy'n dioddef fwyaf oherwydd gwaith atgyweirio heb ei drefnu a gostyngiadau i wasanaethau. Dylai Trafnidiaeth Cymru ail-flaenoriaethu eu gwelliannau i’r rhwydwaith er mwyn rhoi’r sylw sydd ei angen mor ddirfawr ar y cyswllt trafnidiaeth hanfodol hwn i Ganolbarth Cymru.
https://youtu.be/gBlI-RnsOvw?si=6SG4LYe2SgNv9erX
Mae cefnogi cysylltedd ein cymunedau gwledig yn well, yn ddigidol a thrafnidiaeth, yn hollbwysig i sicrhau dyfodol a gwytnwch yr economi wledig yng Nghymru.
Pecyn ariannu tecach ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus
Mae dirfawr angen strategaeth economaidd ar Gymru sy’n gallu darparu cyllid digonol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, gan leihau tlodi, gwella incwm a sicrhau ein bod yn gwireddu ein cyfraniad posibl at yr ymdrech fyd-eang i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Mae pob maes, pob cymuned—yn wir, holl genhedloedd y DU—yn haeddu triniaeth gyfartal, felly mae’n hanfodol bod pob lefel o Lywodraeth yn gwneud eu gorau glas i sicrhau’r buddsoddiad a, lle bo angen, diwygio’r polisi er mwyn galluogi ein cymunedau gwledig i gyflawni eu potensial.