Ymunwch â ni ar 1 Chwefror 2025 am 12pm ar Sgwâr Glyndŵr, Aberystwyth i wneud ein gofynion yn glir - rhaid datganoli Ystad y Goron i Gymru nawr.
Mae Ystad y Goron Cymru werth £853 miliwn. Mae’n cynnwys dros 50,000 erw o dir, traethau a gwelyau afonydd ein gwlad. Ar hyn o bryd, mae’r elw yn llifo’n uniongyrchol i Drysorlys y DU ac i’r Teulu Brenhinol.
Ar ôl 14 mlynedd o gyni dan y Torïaid – a thoriadau pellach gan Lafur i daliadau tanwydd gaeaf pensiynwyr a pharhau â’r cap dau blentyn creulon - ni all Cymru barhau â’r status quo. Mae Plaid Cymru yn galw am ddatganoli Ystad y Goron, a allai roi tua £50 miliwn ychwanegol yn flynyddol i Gymru i ariannu ein gwasanaethau cyhoeddus gan gynnwys ein hysgolion a’n gwasanaeth iechyd.
Dyma gyfle i ddysgu mwy ac i wrando ar siaradwyr gwadd (Ben Lake AS, Elin Jones AS a’r Cyng. Alun Williams) yn annerch y dorf. Dewch yn llu - mae croeso cynnes i bawb.