GALWAD TRAWSBLEIDLIOL I AMDDIFFYN GWASANAETHAU RHAG POLISI LLAFUR I GODI TRETH AR YSWIRIANT GWLADOL

Amcangyfrifir y bydd cynnydd yng nghyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr yn costio £380 miliwn i sefydliadau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru

Mae Plaid Cymru wedi rhybuddio bod cynnydd Llafur i gyfraniadau Yswiriant Gwladol “mewn perygl o achosi niwed economaidd a chymdeithasol i gymunedau.”

Mae gwelliant trawsbleidiol i’r Bil Yswiriant Gwladol (YG), a arweiniwyd gan Blaid Cymru, ac a gaiff ei gefnogi gan y Blaid Werdd a’r SNP, yn galw ar Lafur i wrthdroi’r codiad treth hwn.

Bydd cynnydd mewn YG yn costio £380 miliwn i sefydliadau'r sector cyhoeddus yng Nghymru. Bydd hyn yn cael effaith ddifrifol ar wasanaethau cyhoeddus Cymru, gan gynnwys darparwyr gofal a gofal plant yn benodol.

Bydd busnesau bach ac elusennau hefyd yn dioddef. Mae’r OBR wedi rhybuddio y bydd y cynnydd cyfartalog o £800 i bob cyflog mewn CYG cyflogwyr yn arwain at gyflogau is yn y pen draw, gan ychwanegu pwysau ar aelwydydd sydd eisoes yn ei chael hi’n anodd cael dau ben llinyn ynghyd.

Galwodd llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Ben Lake AS, a gyflwynodd y gwelliant, am “ffyrdd mwy blaengar a thecach o godi refeniw” ac anogodd ASau eraill o Gymru i gefnogi cynigion ei blaid.

Dywedodd Ben Lake AS:

“Mae perygl i gynigion Llywodraeth y DU achosi niwed economaidd a chymdeithasol i gymunedau. Mae’r OBR wedi rhybuddio y bydd y cynnydd yng Nghyfraniadau Yswiriant Gwladol y Cyflogwr yn arwain at arafu twf cyflogau mewn termau real, a phrisiau uwch i weithwyr.

“Bydd hefyd yn gosod costau ychwanegol sylweddol ar y sector cyhoeddus, sefydliadau’r trydydd sector, a busnesau bach, heb unrhyw ddarpariaeth yn y Bil i ad-dalu grwpiau hanfodol fel gweithwyr prifysgol, meddygon teulu, staff gofal cymdeithasol, ac elusennau.

“Cafodd Llywodraeth y DU y cyfle i archwilio ffyrdd mwy blaengar a thecach o godi refeniw – megis cydraddoli Treth Enillion Cyfalaf â Threth Incwm neu gyflwyno Treth Cyfoeth. Yn lle hynny, dewiswyd llwybr sy’n rhoi'r baich ar rheiny sydd lleiaf abl i’w ysgwyddo, ar adeg ble mae straen ariannol sylweddol eisoes ar wasanaethau cyhoeddus a busnesau.

“Ni all Plaid Cymru gefnogi’r ymagwedd hon, sy’n blaenoriaethu atebion tymor byr dros degwch a chynaliadwyedd hirdymor. Rydym yn annog ein cyd-Aelodau Seneddol o Gymru i ailystyried eu cefnogaeth i’r cynigion hyn, ac yn lle hynny, cefnogi atebion tecach Plaid Cymru sy’n adlewyrchu anghenion Cymru a’i chymunedau.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.