Pryderon ynglŷn â pheilonau Dyffryn Teifi yn cael eu codi yn y Senedd

Mae Ben Lake AS wedi annog Llywodraeth y DU i wneud ceblau tanddaearol y dull diofyn ar gyfer gosod seilwaith grid trydan newydd.

Mae 4,500 milltir o linellau trawsyrru trydan uwchben yng Nghymru a Lloegr. Mae hyn yn cyferbynnu ag ychydig dros 900 milltir o geblau tanddaearol. Mae ‘tanddaearu’, sef gosod ceblau tanddaearol yn lle ceblau uwchben, yn cael ei ddefnyddio mewn amgylchiadau cyfyngedig, megis mewn tirweddau a ddynodwyd yn genedlaethol.

Mae cynnydd wedi bod yn y galwadau i danddaearu. Fodd bynnag, mae'r llywodraeth wedi cyfeirio at sawl mater, gan gynnwys y gost uwch o osod ceblau o dan y ddaear wrth ddefnyddio dulliau agor ffos draddodiadol. Fodd bynnag, mae datblygiadau diweddar mewn technegau aredig ceblau wedi lleihau’r gost o osod ceblau o’r fath o dan y ddaear yn sylweddol, fel bod ASau yn galw ar Lywodraeth y DU i fabwysiadu’r dull fel eu dull dewisol ar gyfer seilwaith grid newydd.

Mae Green GEN Cymru yn cynnig llinell 132kV uwchben newydd i gysylltu Parc Ynni Lan Fawr yng Ngorllewin Cymru ag is-orsaf newydd y Grid Cenedlaethol yng Nghaerfyrddin. Fel rhan o’r broses ymgynghori gychwynnol, codwyd pryderon sylweddol gan drigolion a busnesau am effaith weledol, amgylcheddol ac economaidd y llinell uwchben arfaethedig – gyda nifer o gyfarfodydd cyhoeddus a grwpiau ymgyrchu wedi ffurfio dros y MISOEDD diweddar i wrthwynebu’r cynigion.

Mae pryderon am y rhwydwaith arfaethedig Tywi Teifi wedi’u codi yn y Senedd o’r blaen a’r wythnos diwethaf fe ailadroddodd Ben Lake AS alwadau yn ystod dadl yn Neuadd San Steffan ar Beilonau ac uwchraddio’r Grid Cenedlaethol am osod ceblau trawsyrru o dan y ddaear.

 

Yn ystod ei araith dywedodd Mr Lake:

“Yr hyn sy’n ganolog yn y fan hyn yw’r syniad o drawsnewid deg – o gydbwyso pryderon cymunedau â’r angen am seilwaith newydd. Er bod diffiniadau o drawsnewid deg yn wahanol, fy nealltwriaeth i o’r cysyniad yw y dylai sicrhau canlyniadau tecach o’r newid i sero net drwy wneud y mwyaf o fanteision gweithredu ar newid yn yr hinsawdd a lleihau’r effaith negyddol ar gymunedau.

“Rydyn ni i gyd yn cytuno bod angen uwchraddio’r Grid Cenedlaethol. Mae angen ei gryfhau, ond mae’n siomedig bod y Llywodraeth, hyd yma, wedi methu yn wirioneddol ag ystyried buddion a manteision technegau aredig cebl.”

Dadleuodd Mr Lake y gallai gosod ceblau trawsyrru trwy ddefnyddio technegau aredig ceblau, fel y defnyddir gan gwmni lleol ym Mhencader (ATP), leihau'r gost a'r amser a gymerir i gwblhau'r gwaith o uwchraddio'r seilwaith yn sylweddol.

 

Ychwanegodd Mr Lake:

“Gallai aredig â chebl fod yn fodd o gydbwyso’r angen am unrhyw seilwaith trydan newydd â phwysigrwydd nid yn unig lleihau’r costau ariannol, ond hefyd effaith amgylcheddol ddiangen a gwrthwynebiad cymunedol.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.