Plaid Cymru yn galw ar Gyfoeth Naturiol Cymru i weithredu'n gyflym i achub canolfannau

Bydd y ddarpariaeth o arlwyo a manwerthu mewn tair canolfan yn dod i ben fel rhan o gynlluniau gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i arbed costau sefydliadol gan arwain at doriadau mewn swyddi a bylchau yn y gwasanaeth a ddarperir.

Mae CNC yn gyfrifol am redeg tair canolfan ymwelwyr ledled Cymru, gydag Ynyslas a Nant yr Arian yng Ngheredigion a Choed y Brenin yng Ngwynedd. Mae pob un o’r tri safle yn hynod o bwysig i economi canolbarth Cymru.

Bydd 120 o aelodau staff yn cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan y newidiadau yma i strwythur sefydliadol CNC, sydd wedi cael eu cymeradwyo gan fwrdd CNC, wrth iddynt geisio gwneud arbedion ariannol sylweddol. Ddoe, cyhoeddodd CNC y bydd yn "symleiddio ei weithgareddau ac yn canolbwyntio ei adnoddau ar ddarparu gwasanaethau hanfodol na all neb ond CNC eu darparu.". Bydd hyn yn cynnwys ymdrechion i wella ansawdd dŵr a monitro.

Fodd bynnag, mae llawer o grwpiau a defnyddwyr lleol yn flin iawn ynghylch pa mor araf y mae CNC wedi bod i drafod gyda grwpiau lleol sydd eisoes wedi mynegi diddordeb mewn sicrhau dyfodol sefydlog i’r canolfannau ymwelwyr. Mae pryder y bydd hyn yn arwain at weithgareddau'r canolfannau ymwelwyr yn dod i ben am gyfnod estynedig o amser.

Mae nifer o fusnesau a grwpiau lleol ym mhob un o’r tair canolfan ymwelwyr eisoes wedi mynegi diddordeb mewn rhedeg darpariaeth arlwyo a manwerthu. Fodd bynnag, er gwaethaf y bwriad i gynnal cyfarfodydd cyhoeddus cymunedol ym mis Tachwedd, mae CNC yn nodi y gallai gymryd cyfnod estynedig o amser i drosglwyddo'r cyfleusterau. Yn y cyfamser, dim ond gwasanaethau sylfaenol iawn fel parcio a thoiledau y bydd y canolfannau ymwelwyr yn eu cynnig.


Dywedodd Rhodri Davies, Cynghorydd Ceredigion;
“Mae hyn yn newyddion ofnadwy i’r staff ac i ni fel ymgyrchwyr. Bydd hyn yn cael effaith ddifrifol ar y gymuned leol, twristiaeth ac economi Ceredigion. Mae angen inni roi pwysau ar CNC i ddarparu rhagor o wybodaeth a dod o hyd i ateb i sicrhau bod dyfodol i’r canolfannau ymwelwyr. Mae cyfarfod cyhoeddus wedi ei drefnu ar y 26ain o Dachwedd yn Neuadd Penllwyn, Capel Bangor.”


Ychwanegodd Ben Lake AS ac Elin Jones MS:
“Mae penderfyniad Cyfoeth Naturiol Cymru i ddod â'r ddarpariaeth arlwyo a manwerthu yng nghanolfannau Bwlch Nant yr Arian ac Ynyslas yn hynod o siomedig, a bydd y penderfyniad yn cael effaith go iawn ar drigolion lleol, cymunedau, a’r economi ehangach. Rydym yn poeni'n fawr am yr aelodau staff sydd yn cael eu heffeithio gan y penderfyniad hwn, sydd wedi gweithio’n ddiwyd dros y blynyddoedd ac sydd wedi parhau i wasanaethu o dan amgylchiadau anodd yn y misoedd diwethaf.

“Gwyddom fod Bwlch Nant yr Arian ac Ynyslas yn gwneud cyfraniad pwysig i’r economi leol, gan ddenu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn. Mae’r siom heddiw yn waeth gan ei fod yn dilyn misoedd o ymgyrchu a chefnogaeth gref gan drigolion lleol a grwpiau sy’n barod i weithio gyda CNC i gadw’r cyfleusterau hyn ar agor. Mae grwpiau lleol wedi dangos parodrwydd i drafod posibiliadau amgen gyda CNC i gadw’r canolfannau ar agor, ond mae methian CNC i ymgysylltu gyda hwy yn rhwystredig tu hwnt. O ystyried cryfder y gefnogaeth leol, mae’n hanfodol nad yw CNC yn gwastraffu rhagor o amser cyn ymgysylltu â’r grwpiau hynny sy’n fodlon ac yn gallu cymryd cyfrifoldeb am redeg y canolfannau yn y dyfodol.

“Yn eu penderfyniad ddoe, mae CNC yn honni y byddant yn gweithio i sicrhau trosglwyddiad "llyfn ac amserol o wybodaeth ac adnoddau" i grwpiau lleol. Rydym wedi rhybuddio yn erbyn oedi'r broses o drosglwyddo'r canolfannau gan y byddai hynny ond yn creu mwy o broblemau a heriau ariannol pellach. Mae’n rhaid i CNC gadw at eu haddewidion a'u hymrwymiadau i weithio gyda ni a phartneriaid lleol i sicrhau bod y cyfleusterau ym Mwlch Nant yr Arian ac Ynyslas yn cael eu trosglwyddo i ddwylo lleol, heb unrhyw oedi pellach, fel eu bod yn parhau ar agor i’r gymuned allu eu mwynhau.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.