Rhaid i'r Trysorlys ddarparu cyllid ychwanegol ar gyfer gofal iechyd yn sgil cynnydd i Yswiriant Gwladol – Plaid Cymru

‘Rhaid cydnabod bod meddygon teulu, fferyllfeydd a chartrefi gofal yn rhannau hanfodol o’n system gofal iechyd’ – Ben Lake AS

Mae llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Ben Lake AS, wedi codi pryderon brys am effaith y newidiadau i gyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr ar ddarparwyr gofal iechyd yng Nghymru.

Wrth i gyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr gynyddu, mae'r cwestiynau ynghylch a fydd Trysorlys y DU yn dyrannu arian newydd ychwanegol i dalu costau i feddygon teulu, fferyllfeydd a chartrefi gofal yn parhau.

Yn ystod Cwestiwn Brys yn Nhŷ’r Cyffredin, gofynnodd AS Ceredigion Preseli am eglurder ynghylch a fydd cyllid i gefnogi meddygon teulu, fferyllfeydd a chartrefi gofal yn dod o gyllideb bresennol Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lloegr, neu a fydd y Trysorlys yn darparu cyllid ychwanegol.

Ni fyddai Cymru'n cael unrhyw arian ychwanegol os bydd arian yn cael ei ddarparu o'r cyllidebau presennol. Os bydd y Trysorlys yn darparu arian newydd ar gyfer darparwyr gofal iechyd yn Lloegr, byddai Cymru’n cael cyllid ychwanegol drwy fformiwla Barnett. Dywedodd Mr Lake ei fod yn “bryderus” nad oedd eglurder dros bythefnos ers y Gyllideb, a dywedodd y dylai meddygon teulu, fferyllfeydd a chartrefi gofal gael eu cydnabod fel “rhannau hollbwysig o’n system gofal iechyd”.

 

Dywedodd AS Plaid Cymru dros Preseli Ceredigion, Ben Lake AS:

"Mae meddygon teulu, fferyllfeydd, a chartrefi gofal cymdeithasol ar draws Ceredigion Preseli wedi cysylltu â mi i fynegi eu pryderon am effaith newidiadau polisi ynghylch cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr. Mae'n hanfodol eu bod yn cael eu cefnogi gyda'r costau ychwanegol fydd gyda nhw o ganlyniad i'r polisi hwn. Mae'r Gweinidog wedi awgrymu y gallai fod cymorth ychwanegol ar gael i rai drwy'r systemau arferol.

“A gaf i ofyn iddi egluro a fydd y cyllid hwnnw’n dod o gyllideb bresennol yr Adran neu a fydd arian newydd yn cael ei gyfrannu gan y Trysorlys? Byddai'r gwahaniaeth hwn yn arwain at oblygiadau sylweddol i Lywodraeth Cymru, yn enwedig o'r posibilrwydd y byddant yn derbyn cyllid fformiwla Barnett ychwanegol.”

 

Ymatebodd y Gweinidog Gwladol dros Iechyd, Karin Smyth AS:

"Rwy'n diolch i'r gŵr anrhydeddus am ei gwestiynau. Rwy'n deall pryderon y darparwyr sydd wedi dod ato, ac mae'n iawn i'w codi yn y lle hwn. Fel y mae'n gwybod, mae iechyd a gofal cymdeithasol wedi'i ddatganoli i Lywodraeth Cymru, a bu eisoes budd sylweddol o gyllid canlyniadol Barnett yn y Gyllideb bresennol.

“Byddwn yn parhau i siarad â’r rhanbarthau datganoledig mewn modd llawer mwy cydweithredol – a gaf i ddweud – mewn modd na wnaeth y llywodraeth flaenorol, er mwyn sicrhau bod gennym system dda ar draws y Deyrnas Unedig gyfan.”

 

Wrth siarad ar ôl y sesiwn, ychwanegodd Ben Lake AS:

“Mae’n destun pryder, dros bythefnos ers i’r Canghellor gyflwyno ei Chyllideb, nad yw Llywodraeth y DU yn gallu dweud o hyd a fydd y Trysorlys yn darparu cyllid ychwanegol i helpu i dalu costau Yswiriant Gwladol ychwanegol ar gyfer meddygon teulu, fferyllfeydd a chartrefi gofal. Maent yn rhannau hanfodol o’n system gofal iechyd a rhaid eu cydnabod felly.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.