Lansio ymgyrch Ben Lake yng Nghrymych

Ben Lake yn lansio'i ymgyrch gyda chefnogwyr yng Nghrymych

Lansiodd Ben Lake ei ymgyrch etholiadol yng Nghlwb Rygbi Crymych nos Iau a chyfarfu ag ystafell orlawn o gefnogwyr i amlinellu ei flaenoriaethau fel ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer sedd newydd Ceredigion Preseli.

Mae Ben Lake wedi cynrychioli Ceredigion yn San Steffan ers 2017, gan gynyddu ei fwyafrif yn etholiad 2019 i 6,329 o bleidleisiau.

Mae sedd newydd Ceredigion Preseli yn ymestyn o Aberteifi i Lanrhian ar hyd arfordir Sir Benfro, ac yn cynnwys wardiau mewndirol Crymych, Clydau, Maenclochog a Chilgerran.

Ar ôl y lansiad, dywedodd Ben Lake:

“Rwy’n ddiolchgar i bawb a ymunodd â mi yng Nghlwb Rygbi Crymych neithiwr ac rwy’n wirioneddol ostyngedig gan gefnogaeth pawb.

“Mae fy mlaenoriaethau i gael fy ethol fel Aelod Seneddol Ceredigion Preseli yn glir – bargen deg i gymunedau gwledig, buddsoddi mewn seilwaith a mwy o gyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, ac economi ffyniannus, gynaliadwy sydd ag anghenion cymunedau yn hytrach na rhai corfforaethau mawr fel ei ffocws.

“Rwy’n edrych ymlaen at ddod i adnabod mwy o bobl a chymunedau ar draws gogledd Sir Benfro dros y misoedd nesaf tra hefyd yn parhau i wasanaethu cymunedau Ceredigion hyd eithaf fy ngallu. Fe wnaf fy ngorau glas i ddarbwyllo pobl yr etholaeth newydd arbennig hon fy mod yn deilwng o’u cefnogaeth.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.