Canolfannau Bancio Cymunedol

Heb os, mae’r ffordd rydyn ni’n bancio wedi newid dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae’n parhau i ddatblygu wrth i fwy a mwy o bobl fancio ar lein. Mae bancio ar lein wedi hwyluso pethau i nifer, ond nid oes gan bawb fynediad at y we sy’n eu gorfodi i deithio milltiroedd ar filltiroedd i gyrraedd cangen eu banc. Yn ogystal â hyn, nid oes modd cyflawni pob gweithred dros y we, fel y mae mudiadau cymunedol a busnesau yn gwybod yn well na neb. Mae’r banciau’n dadlau eu bod yn cau eu canghennau gan fod llai yn eu defnyddio ond nid oes modd cyfiawnhau’r penderfyniadau diweddar yma ar sail y ffaith hwn yn unig.  

Dim ond ers dechrau’r flwyddyn, mae Barclays, Lloyds a Halifax wedi cyhoeddi y byddant yn cau eu canghennau ymhen ychydig fisoedd gan adael Ceredigion heb unrhyw un o’r banciau yma. Pan godais y broblem hwn yn San Steffan am y tro cyntaf yn ôl yn Ionawr 2018, dyma’r union sefyllfa roeddwn i'n ei rhagweld. Galwais am sefydlu Canolfannau Bancio Cymunedol – datrysiad amgen byddai o fudd i gwsmeriaid ac i fanciau mewn gwirionedd gan y byddai’n rhoi cyfle i fanciau i leoli ar un safle a chynnig gwasanaeth bancio llawn i bobl. 

Dyma’r troeon rydw i wedi codi materion yn ymwneud â bancio yn San Steffan: 

11/1/2018 - Banks and Communities - Hansard - UK Parliament 

27/2/2018 - Access to Banking Services - Hansard - UK Parliament 

14/2/2019 - Santander Closures and Local Communities - Hansard - UK Parliament 

7/9/2022 - Financial Services and Markets Bill - Hansard - UK Parliament 

20/3/2023 - Cash Acceptance - Hansard - UK Parliament 

Erbyn hyn, mae Canolfannau Bancio Cymunedol wedi ymddangos mewn rhannau eraill o Gymru, ac rydw i'n croesawu hynny, ond mae’n rhaid cwestiynu pam nad oes un wedi’i sefydlu yng Ngheredigion eto? 

Yn ôl yn 2022, cyhoeddodd y Financial Conduct Authority (FCA) yr hyn maen nhw’n ei alw’n ‘Consumer Duty’ sef set o reolau sy’n gwneud yn siŵr bod banciau yn gosod safonau uwch er mwyn diogelu eu cwsmeriaid a sicrhau mae eu hanghenion nhw sydd yn dod yn gyntaf. Mae’r ‘Consumer Duty’ yn gwarchod cwsmeriaid â chyfrifon personol yn ogystal â mudiadau elusennol neu gymunedol. Yn bersonol, doedd gweithredoedd diweddar y banciau ddim fel petaent yn cydymffurfio gyda’r daliadau yma felly penderfynais gynnal arolwg bancio i fudiadau elusennol a chymunedol i gasglu profiadau swyddogion a gwirfoddolwyr o fancio yng Ngheredigion. Daeth 121 ymateb i law, a daeth i'r amlwg bod y rhan fwyaf o’r rheiny gymerodd ran yn yr arolwg yn anfodlon tu hwnt gyda’r gwasanaeth bancio fel ag y mae ar hyn o bryd. Teimlent nad oedd y banciau’n deall nac eu hanghenion nac yn hyderus eu bod yn gweithredu ar eu rhan fel mudiadau. Yn fy nhyb i, mae unigolion â chyfrifon personol, a busnesau yn teimlo’r un peth. Mae’r rhwystredigaeth gyda’r banciau ar hyn o bryd yn amlwg – am y canghennau sy’n parhau i gau, ond hefyd am aneffeithlonrwydd y gwasanaeth yn gyffredinol.  

Mae canlyniadau’r arolwg, yn ogystal â’r raddfa y mae banciau’n cau canghennau yn ddiweddar ond wedi atgyfnerthu fy nghred bod Canolfannau Bancio Cymunedol bellach yn wasanaeth angenrheidiol i Geredigion. Rydw i'n cwrdd â’r FCA a Link cyn diwedd y mis (Mawrth 2024) i drafod y sefyllfa hon. Yn ystod y cyfarfodydd hyn, byddaf yn gwthio’r achos i sefydlu Canolfannau Bancio Cymunedol cyn gynted â phosib sy’n darparu gwasanaeth bancio llawn i drigolion Ceredigion a sy’n taclo’r argyfwng hwn. 

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.