Ymunwch â ni ar nos Wener, y 26ain o Orffennaf yng Nghlwb Rygbi Aberteifi am noson gymdeithasol anffurfiol i ddathlu llwyddiant Ben Lake a Phlaid Cymru yn yr etholiad cyffredinol. Bydd y noson yn dechrau am 7:30pm.
Dyma'r cyfle perffaith i ni ddod ynghyd ar ôl chwech wythnos hir o ymgyrchu i ymlacio, hel atgofion a chymdeithasu. Mae croeso cynnes i bob aelod, cefnogwr a gwirfoddolwyr a helpodd Ben Lake a Phlaid Cymru i sicrhau canlyniad cystal.
PRYD
Gorffennaf 26, 2024 am 7:30pm - 10:30pm
BLE