Galw am brisiau tanwydd is

Mae’r manwerthwyr tanwydd mwyaf yn mwynhau elw sy’n uwch na’r cyfartaledd mewn cyfnod lle mae cartrefi a busnesau bychan yn ei chael hi’n anodd, medd Ben Lake.

Mae llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys wedi galw ar y manwerthwyr mawr i dorri pris tanwydd yn unol â chostau cyfanwerthu.

Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin ar ddydd Mawrth 14 Tachwedd, dywedodd Ben Lake wrth Ysgrifennydd y Trysorlys, Gareth Davies AS, bod cost tanwydd “yn ofid mawr i etholaethau gwledig” a gofynnodd am asesiad o effaith maint yr elw uwch ar gartrefi.

Mae Ben was cefnogi ymgyrch yr RAC i dynnu 5c oddi ar bris petrol oherwydd pryderon bod y manwerthwyr tanwydd mwyaf wedi cynyddu maint eu helw yn ystod y misoedd diwethaf.

Dywed yr RAC bod y pedwar archfarchnad fawr yn gwneud yr elw uchaf o betrol – ar gyfartaledd 16c i bob litr o danwydd di-blwm a werthwyd yn Hydref, a 12c ar bob litr o ddisel.

Dywedwyd hefyd bod yr elw ar danwydd di-blwm ddwywaith y cyfartaledd a wnaed gan archfarchnadoedd ers 2012.

Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin dydd Mawrth, dywedodd Ben Lake:

“Bydd y Gweinidogion yn ymwybodol bod pris tanwydd yn ofid mawr i gymunedau gwledig.

“Mae’r RAC wedi darganfod bod yr archfarchnadoedd mawr yn gweld maint eu helw ar werthiant tanwydd ym mis Hydref ddwywaith y ffigwr ar gyfer y flwyddyn hyd yma ar 14c y litr. Mae hynny yn adlewyrchu pryderon y Competition and Markets Authority bod pris cyfanwerthu tanwydd wedi gostwng ym mis Medi a Hydref, er bod prisiau adwerthu heb ostwng.

“Beth yw asesiad y Trysorlys ar yr effaith bydd maint yr elw yma yn ei gael ar gartrefi yn ystod gaeaf eleni?”

Atebodd Mr Davies:

“Rydym yn cydnabod bod toll ar danwydd yn gost fawr i gartrefi a busnesau. Dyna pam bod y Canghellor wedi ymestyn y gostyngiad toll dros dro o 5c yn ystod Datganiad y Gwanwyn 2023. Roedd hyn yn arbediad o £5bn i yrwyr a £100 i’r gyrwyr ar gyfartaledd, ond rydym yn cadw golwg ar hyn bob amser.”

Ar ôl y sesiwn, ychwanegodd Ben Lake AS:

“Mae’n iawn i lywodraeth y DU dorri toll tanwydd, ond ni fydd cyllidebau cartrefu yn elwa o’r penderfyniad os yw archfarchnadoedd sy’n gwerthu tanwydd yn amsugno’r gwerth er mwyn cynyddu’r elw ar bob litr o danwydd, fel sy’n ymddangos i fod wedi digwydd yn ystod y misoedd diwethaf. Daeth maint yr elw uwch na’r cyfartaledd i’r golwg yn dilyn canfyddiadau ymchwiliad y Competition and Markets Authority yn ystod haf eleni bod y pedwar prif archfarchnad wedi codi hyd ar 6c y litr yn fwy yn 2022, cyfanswm cost o tua £900m.

“Yn ôl dadansoddiad yr RAC, maint y cyfartaledd elw ar danwydd cyn rhyfel Wcráin oedd 4.7 y litr, ond ers dechrau’r rhyfel mae hyn wedi codi i gyfartaled o 9.5 y litr. Mae maint yr elw ar gyfartaledd ar gyfer Hydref 2023 yn uwch fyth.

“Mae'n amlwg bod manwerthwyr tanwydd mwyaf y DU yn mwynhau maint elw uwch na'r cyfartaledd ar adeg pan na all cartrefi a busnesau bach fforddio'r gost ychwanegol. Mae pris tanwydd yn bryder ar draws y DU ac yn allweddol i werth chwyddiant, ond mae cymunedau gwledig yn cael ei effeithio’n waeth gan brisiau uchel am fod yn rhaid i ni deithio ymhellach er mwyn derbyn gwasanaethau, gwaith ac addysg. Ar ben hyn, ar adeg pan mae gwasanaethau bysus yn cael eu torri’n ddidrugaredd, mae’r costau uwch wrth y pwmp yn dwysau effaith diffyg trafnidiaeth gyhoeddus.

“Mae Llywodraeth y DU a’r CMW wedi datgan pryder am y farchnad manwerthu tanwydd. Mae’n hen bryd iddynt ymateb i sicrhau mwy o dryloywder yn y ffordd mae prisiau wrth y pwmp yn cael eu gosod er mwyn rhoi’r fargen orau i bawb. Yn y cyfamser, rwy’n ymuno â galwad yr RAC i annog y manwerthwyr mawr i dorri pris tanwydd gan 5c y litr er mwyn adlewyrchu pris cyfanwerthol tanwydd.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.