Dywed Ben Lake AS fod y blaid yn ‘wrthblaid ddifrifol ac adeiladol’ i Lywodraeth Lafur y DU
Heddiw (dydd Mawrth 16 Gorffennaf) mae llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Ben Lake AS, wedi cyflwyno gwelliant i Araith y Brenin i roi gwasanaethau cyhoeddus Cymru “yn ôl ar sylfaen gynaliadwy” trwy fformiwla ariannu sy’n seiliedig ar angen.
Tynnodd Mr Lake sylw at y ffaith bod Llafur wedi’i hethol ar faniffesto oedd yn addo “dim dychwelyd i lymder”, ond bod gwasanaethau cyhoeddus yn wynebu “bylchau cyllidebol syfrdanol”. Dywedodd y byddai setliadau ariannu aml-flwyddyn ar gyfer Llywodraeth Cymru yn rhoi “mwy o eglurder i wasanaethau cyhoeddus ar eu cyllidebau”.
Ategodd AS Ceredigion Preseli hefyd alwad ei blaid i Gymru dderbyn cyllid canlyniadol llawn gan HS2 a phrosiectau seilwaith eraill yn Lloegr. Tynnodd sylw at y ffaith bod pob plaid yn Senedd Cymru yn cefnogi'r egwyddor, gan gynnwys y Blaid Lafur sydd mewn llywodraeth. Ar lefel y DU, fodd bynnag, mae Llafur wedi gwrthod ymrwymo i’r egwyddor.
Dywedodd Ben Lake AS:
“Mae gwasanaethau cyhoeddus Cymru dan straen difrifol, a Chyngor Caerdydd yw’r diweddaraf i gyhoeddi bwlch cyllidebol syfrdanol o bron i £50 miliwn y flwyddyn nesaf. Rhaid i Lywodraeth Lafur newydd y DU, a etholwyd ar addewid maniffesto o ‘ddim dychwelyd i lymder’, ddangos yn Araith y Brenin sut y mae’n bwriadu rhoi ein gwasanaethau cyhoeddus yn ôl ar sylfaen gynaliadwy.
“Mae Plaid Cymru wedi cyflwyno gwelliant i Araith y Brenin a fyddai’n sefydlu fformiwla ariannu ar sail angen i Gymru, a fyddai’n adlewyrchu ffactorau megis lefelau tlodi cymharol, iechyd, a chanran y plant a’r bobl sydd wedi ymddeol yn y boblogaeth.
“Byddai ein gwelliant hefyd yn gweld setliadau ariannu aml-flwyddyn yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru, gan symud i ffwrdd o’r broses ariannu ad-hoc bresennol sy’n atal pennu cyllidebau’n effeithiol. Byddai hyn yn rhoi mwy o eglurder i wasanaethau cyhoeddus ar eu cyllidebau.
“Rydym hefyd yn galw am fframwaith cyllidol diwygiedig i sicrhau bod Cymru’n cael cyllid canlyniadol llawn o HS2 a phrosiectau seilwaith eraill yn Lloegr drwy ei gwneud yn ofynnol bod ffactor cymaradwyedd cyllid Cymru ar gyfer y rhain, a phrosiectau trafnidiaeth y dyfodol, yn cael ei osod ar 100%. Cefnogir yr alwad hon gan bob plaid yn Senedd Cymru, gan gynnwys y llywodraeth, sef y Blaid Lafur.
“Mae Plaid Cymru yn barod i fod yn wrthblaid ddifrifol ac adeiladol i Lywodraeth Lafur y DU. Byddwn yn dwyn y Llywodraeth i gyfrif ar ei haddewidion i Gymru ac yn defnyddio pob cyfle i sicrhau bargen decach i bobl Cymru.”