Bydd Ben Lake AS yn cynnal sesiynau galw heibio cymunedol mewn dau leoliad ar draws Ceredigion Preseli, gan gynnig cyfle i etholwyr gael cyngor a chymorth hanfodol ar faterion gan gynnwys Credyd Pensiwn wrth baratoi am y gaeaf.
Bydd y digwyddiadau hyn yn galluogi etholwyr i gael mynediad uniongyrchol at gynrychiolwyr o elusennau a sefydliadau fel Cyngor ar Bopeth, a chwmnïau cyfleustodau i’w helpu i fynd i'r afael â phryderon ynghylch biliau, cyllid a materion eraill o bwys. Mae’r gaeaf ar y gorwel, ac mae hwn yn gyfle gwych i bobl ddysgu mwy am yr adnoddau a’r cymorth sydd ar gael iddynt.
Caiff mynychwyr eu hatgoffa mai’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am Gredyd Pensiwn, mewn pryd i fod yn gymwys ar gyfer y taliad tanwydd gaeaf, yw Rhagfyr 21. Er bod ceisiadau am Gredyd Pensiwn yn cael eu derbyn trwy gydol y flwyddyn, mae gwneud cais erbyn y dyddiad hwn yn sicrhau bod etholwyr cymwys yn derbyn y taliad a bod hwnnw’n cael ei ôl-ddyddio.
Manylion y Digwyddiad:
- 8 Tachwedd 2024 - Neuadd y Dref Abergwaun, 2:30pm - 5:00pm
- 22 Tachwedd 2024 - Neuadd Goffa Penparcau, 2:00yp - 5:00yp
Mae’r digwyddiadau hyn yn agored i bawb, ac nid oes angen unrhyw apwyntiadau – mae croeso i chi alw heibio ar unrhyw amser sy’n gyfleus i chi.
Wrth edrych ymlaen at y digwyddiad, dywedodd Ben Lake AS:
“Rwy’n deall bod y gaeaf hwn yn mynd i fod yn heriol i nifer yn ein cymuned sy’n poeni am reoli biliau a chadw eu cartrefi’n gynnes. Mae’r pryderon hyn wedi’u dwysáu gan benderfyniad Llywodraeth y DU i ddileu’r Taliadau Tanwydd Gaeaf i bawb ac eithrio’r rhai ar Gredyd Pensiwn.
“Rwy’n awyddus i estyn allan at etholwyr i gynnig cymorth a rhannu cyngor lle bynnag y bo modd. Rwy’n annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am y cymorth sydd ar gael i fynychu – mae’n gyfle gwerthfawr i gael mynediad at wybodaeth a chodi pryderon gyda mi a sefydliadau eraill.”
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y digwyddiadau uchod, cysylltwch â [email protected]