Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi codiad o 4.9% ym mhrisiau teithiau rheilffordd yng Nghymru er mwyn cwrdd â chostau cynyddol.
Mae’r codiad yn cael ei gyfiawnhau er mwyn buddsoddi mewn gwasanaethau rheilffordd ar draws de Cymru tra bo teithwyr canolbarth a gorllewin Cymru yn dal ar eu colled.
Parhau mae galwadau Plaid Cymru ar Gymru i dderbyn £3.9bn sy’n ddyledus o gyllid canlyniadol HS2 mewn cais i fuddsoddi mewn seilwaith rheilffordd a thrafnidiaeth gyhoeddus ar draws Cymru er mwyn sicrhau cydraddoldeb i gymunedau.
Mewn ymateb i’r cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru, dywedodd Ben Lake AS Plaid Cymru Ceredigion:
“Mae teithwyr Llinell y Cambren yn dal i aros i Drafnidiaeth Cymru wireddu’r addewid o gerbydau newydd a mwy o wasanaethau rhwng Aberystwyth a’r Amwythig, felly mae’n anodd deall sut mae Llywodraeth Cymru yn gallu cyfiawnhau codiad o 4.9% ar brisiau tocynnau trên.
“Hyd yn oed yn fwy dyrys yw’r disgwyliad i deithwyr dalu, er gwaetha’r addewid am £125 miliwn yn ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i gyllideb Trafnidiaeth Cymru eleni. Er ei bod yn cyfiawnhau hyn fel buddsoddiad yng ngwasanaethau’r de, mae teithwyr canolbarth Cymru ar eu colled eto.
“Mae gwir angen i Lywodraeth y DU ryddhau’r £3.9bn sy’n ddyledus i Gymru o HS2 Lloegr er mwyn ei fuddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus ar draws Cymru i sicrhau cydraddoldeb i gymunedau.”