Ydych chi'n credu bod gyda chi'r gallu i ennill cwis tafarn? Dewch yn llu i'r White Swan, Llan-non ar nos Wener, 3 Mai am noson hwyliog ac i brofi'ch gwybodaeth. Bydd y noson yn dechrau am 7:30pm ac yn costio £10 y tîm (hyd at 4 person). Bydd yr elw yn mynd at ymgyrch Ben Lake felly dewch yn llu!
Mae croeso cynnes i bawb! Diolch yn fawr i gangen Llan-non a'r Cylch am drefnu'r noson - mae'n argoeli i fod yn un dda!
PRYD
Mai 03, 2024 am 7:30pm - 9:30pm
BLE
The White Swan Inn, Llanon