Yn ystod oriau mân fore Gwener (5 Gorffennaf), cyhoeddwyd mai Ben Lake fydd yr Aelod Seneddol dros Ceredigion Preseli. Ni gydymffurfiodd etholaeth Ceredigion Preseli gyda thueddiad gweddill y DU i bleidleisio dros Lafur ac enillodd Plaid Cymru o fwyafrif o 14,789.
Roedd y canlyniadau terfynol fel a ganlyn:
Plaid Cymru: 21,738
Ceidwadwyr: 4,763
Llafur: 5,386
Democratiaid Rhyddfrydol: 6,949
Plaid Werdd: 1,964
Worker’s Party: 228
Reform UK: 5,374
Mae sedd newydd Ceredigion Preseli yn cynnwys sir gyfan Ceredigion, yna'n ymestyn i'r de o Aberteifi ar hyd yr arfordir i Lanrhian ac yn cynnwys wardiau mewndirol Maenclochog, Crymych, Clydau a Chilgerran.
Yn dilyn ei fuddugoliaeth, dywedodd Ben Lake AS:
“Mae’n anrhydedd cael fy ethol yn Aelod Seneddol ar gyfer sedd newydd Ceredigion Preseli. Yn ystod y chwech wythnos diwethaf, dywedodd nifer wrthaf y byddent yn benthyg eu pleidlais i Blaid Cymru am y tro cyntaf, ac rwy’n hynod ddiolchgar i bawb a roddodd eu ffydd ynof i’w cynrychioli yn San Steffan. Mae’r canlyniad hwn yn dangos bod pobl eisiau llais cryf, lleol yn San Steffan a fydd yn sefyll dros eu hanghenion ac yn gwarchod eu buddiannau.
“Ers 2017, rwyf wedi gweithio’n ddiflino dros fy etholwyr yng Ngheredigion ac rwy’n addo parhau â’m hymdrechion ac anelu i sicrhau cymdeithas decach, fwy llewyrchus yng Ngheredigion Preseli. O’r Borth i Lanrhian, rwyf wedi cael llawer o sgyrsiau a thrafodaethau diddorol gydag etholwyr sydd â llawer o bryderon ynghylch y dyfodol agos a phell. Rwy’n benderfynol o barhau i sefyll dros gymunedau gwledig a mynnu bod gwleidyddion yn San Steffan yn gwrando ac yn ymateb i'n anghenion yma yng Ngheredigion Preseli – dyna yw fy mhrif flaenoriaeth.”