Cyfarfu'r grŵp gydag AS Ceredigion i drafod materion a phryderon am hygyrchedd digidol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig fel Ceredigion a sut y gall datblygiadau mewn technoleg arwain weithiau at ynysu ychwanegol i rai pobl, yn enwedig unigolion dall a nam ar eu golwg.
Yn y byd rhyng-gysylltiedig fel ag y mae, mae'r rhyngrwyd yn hanfodol ar gyfer dod o hyd i wybodaeth, cysylltu ag eraill, a chymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol. Fodd bynnag, dadleuodd aelodau o Gymdeithas y Deillion Ceredigion y gall llywio'r byd digidol fod yn heriol tu hwnt i bobl ddall a'r rhai sydd â nam arall ar eu golwg.
Mae popeth o adnoddau tai a gofal iechyd i systemau bancio a budd-daliadau yn symud ar-lein ar gyflymdra nas gwelwyd o'r blaen, a gall llywio'r gwasanaethau ar-lein hyn fod yn heriol iawn i unigolion â nam ar eu golwg.
Er bod hygyrchedd digidol yn berthnasol ar bob math o wefannau, pwysleisiodd yr aelodau fod yr angen i lwyfannau bancio ar-lein fod ar gael yn gyffredinol hyd yn oed yn bwysicach efallai. Dywedodd yr aelodau fod annibyniaeth ariannol a phersonol yn flaenoriaeth iddynt, ac os na all unigolion reoli eu harian yn effeithiol, mae'n cyfyngu ar eu hannibyniaeth yn sylweddol.
Esboniodd yr aelodau fod technolegau cynorthwyol fel darllenwyr sgrin yn mynd ymhell tuag at gau'r bwlch rhwng pobl ddall neu rhai sydd â nam ar ei golwg a'u cyfoedion sy’n gallu gweld. Ond mae'r technolegau yn aml yn dod ar draws rhwystrau am nad yw'r wybodaeth sydd wedi’u gynllunio i weithio a nhw - dogfennau, gwefannau a rhaglenni meddalwedd – yn gyfaddas, gan adael y wybodaeth tu hwnt i’w cyrraedd.
Mae mwy o ddefnydd o dechnoleg sgrin gyffwrdd ar y stryd fawr, mewn lleoliadau sector cyhoeddus a meddygfeydd teulu sy’n ei gwneud yn anoddach i bobl â nam ar eu golwg ymgysylltu'n annibynnol â gwasanaethau.
Dywedodd Ben Lake AS:
"Rwy'n ddiolchgar i aelodau Cymdeithas y Deillion Ceredigion am gyfarfod â mi, gan ei bod yn hynod werthfawr gallu clywed yn uniongyrchol am yr heriau dyddiol y mae'n rhaid i unigolion dall a nam ar eu golwg yng Ngheredigion yn gorfod goresgyn i allu defnyddio ystod o wasanaethau - o drafnidiaeth gyhoeddus i fancio ar-lein.
"Roeddwn i'n arbennig o bryderus i ddysgu am yr anawsterau maen nhw'n eu hwynebu wrth ddefnyddio gwasanaethau ariannol ar-lein, a'r effaith y bydd cau mwy o ganghennau banc yn cael ar eu hannibyniaeth ariannol. Byddaf yn codi hyn yn y Senedd yn ystod yr wythnosau nesaf fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor Materion Cymreig i gau banciau'r stryd fawr, ac yn pwyso am gyflwyno safonau llymach."