Mae sawl ffordd y gallwch gefnogi ymgyrch Ben Lake a Plaid Cymru Ceredigion Preseli. Byddwn yn ddiolchgar am unrhyw gyfraniad allwch ei roi - boed hynny yn amser neu'n ariannol.
Gwirfoddoli
Beth bynnag yw'ch talent, beth bynnag yw'ch diddordebau, beth bynnag yw'ch argaeledd, gallwch roi'ch amser a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i Geredigion Preseli. O rannu taflenni a siarad efo etholwyr i fewnbynnu data ac ymgyrchu digidol - gall bob un gyfrannu.
Rhodd Ariannol
Mae pob ceiniog y gallwch ei chyfrannu yn gwneud gwahaniaeth i gyrraedd cymaint o bobl â phosib ar draws yr etholaeth. Bydd cyfraniadau ariannol yn caniatáu i ni argraffu taflenni, rhedeg hysbysebion digidol, creu cynnwys creadigol, darparu a gosod placardiau a llawer mwy.
Ymuno
Ymaelodwch efo Plaid Cymru heddiw, gan weithio efo ni dros degwch, dros uchelgais, ac i roi llais cryf i bob un o'n cymunedau.