Roedd canlyniad yr etholiad cyffredinol yn wych i Plaid Cymru, a bu’r gefnogaeth ar draws Ceredigion Preseli yn arbennig o galonogol. Ni fyddem wedi gallu sicrhau'r llwyddiant hwn heb gymorth ein haelodau a'n cefnogwyr. Mae nawr yn hanfodol ein bod yn manteisio ar yr egni a'r momentwm hwn, a pa ffordd well o wneud hynny na thrwy ailsefydlu Cangen D.J. yn ne orllewin yr etholaeth?
Ond beth yw pwrpas cangen? Mae gan Plaid Cymru ganghennau ar draws Ceredigion Preseli, ac maent yn cynnig cyfle i aelodau ddod ynghyd i drafod gweledigaeth y blaid a dylanwadu ar y ffordd ymlaen drwy sicrhau bod y syniadau yn cyd-fynd â gofynion lleol. Gallwch, fel cangen, drefnu digwyddiadau yn lleol i ddenu aelodau newydd ac mae canghennau’n chwarae rhan allweddol wrth gryfhau cefnogaeth yn lleol. Yn fwy na dim, dyma gyfle i chi gymdeithasu fel aelodau Plaid Cymru.
Does dim pwrpas cael plaid o unigolion ar wahân – mae'r gwaith da'n digwydd pan rydyn ni’n dod at ein gilydd, yn cefnogi ein gilydd, ac yn gweithio tuag at yr un nod.
Felly, bydd Cangen D.J. yn cwrdd am y tro cyntaf ers i etholaeth Ceredigion Preseli gael ei ffurfio, nos Wener y 1af o Dachwedd am 7:30pm yng Nghlwb Rygbi Abergwaun. Dyma gyfle i ailsefydlu’r gangen, ethol swyddogion a rhannu syniadau am weledigaeth y gangen ar gyfer y dyfodol. Mae Ben Lake AS hefyd yn bwriadu ymuno felly dewch yn llu. Mae croeso cynnes i bob aelod o Plaid Cymru yn yr ardal.
PRYD
Tachwedd 01, 2024 am 7:30pm - 9:30pm
BLE
CYSWLLT
Elain Roberts
·