Buddsoddiad digidol yn hanfodol i gynnal cymunedau gwledig ffyniannus – Ben Lake AS Ceredigion

Poblogaeth Ceredigion wedi gostwng 5.8% rhwng 2011 a 2021

Mae Ben Lake AS wedi galw am weithredu ar frys i fynd i’r afael â newidiadau demograffeg er lles hirdymor bywiogrwydd cymunedau gwledig Cymreig. Wrth siarad mewn dadl seneddol ar y 29ain o Chwefror, tanlinellodd Mr Lake y rheidrwydd i fuddsoddi mewn cysylltedd digidol fel cam hanfodol er mwyn adeiladu economïau gwledig cynaliadwy.

Yn ei araith, tynnodd AS Plaid Cymru sylw at y duedd bryderus o bobl ifanc yn gadael Ceredigion i astudio neu weithio, sydd wedi arwain at ostyngiad arwyddocaol o 5.8% yn y boblogaeth - y gostyngiad mwyaf yng Nghymru. Pwysleisiodd yr angen brys am fesurau i sicrhau cymunedau ffyniannus ar hyd y flwyddyn, yn hytrach na bod yn hollol ddibynnol ar weithgarwch tymhorol.

Dywedodd Ben Lake bod Plaid Cymru am weld “economi ffyniannus ar hyd y flwyddyn, lle gall bobl ifanc ddisgwyl dilyn gyrfaoedd cyffrous yn eu hardal enedigol.”

Tanilinellodd Mr Lake rôl allweddol cysylltedd digidol i ddatblygiad yr economi wledig, a galwodd am flaenoriaeth i ardaloedd gwledig yn y Project Gigabit er mwyn pontio’r rhaniad digidol.

 

Tra’n siarad yn Nhŷ'r Cyffredin, dywedodd Ben Lake AS:

"Yn draddodiadol mae pobl ifanc sydd wedi eu magu yng Ngheredigion yn gadael i astudio neu weithio ac yn anaml yn dychwelyd. Yn anffodus, dengys cyfrifiad 2021 bod poblogaeth gyffredinol Ceredigion wedi gostwng 5.8%, ffigwr anhygoel, y gostyngiad mwyaf yng Nghymru.

“O fewn y ffigyrau yna, mae yna stori o newid llwyr yn nemograffiaeth Ceredigion: llai o bobl ifanc – plant ac oedolion ifanc – ac felly cyfartaledd uwch o boblogaeth dros 65 oed. Yn wir mae gan Geredigion strwythur demograffig hynod, 13% o’r boblogaeth o dan 15 oed a 25% dros 65 oed. Mae hon yn broblem y dylem fod yn ei ystyried yn San Steffan a Chaerdydd, gan fod i hyn ganlyniadau real am y gallu i gynnal gwasanaethau cyhoeddus mewn ffordd effeithiol ac addas.

“Mae gan hyn hefyd rhywbeth i’w wneud gyda’r gallu i sicrhau bod gennym gymunedau ffyniannus. Nid wyf am wedi rhannau o Gymru, gorllewin Cymru neu unrhyw ran arall, ar gau am hanner y flwyddyn, a dim ond yn dihuno yn ystod misoedd yr haf. Rydym am economi ffyniannus ar draws y flwyddyn, lle gall bobl ifanc ddisgwyl dilyn gyrfaoedd cyffrous yn eu hardal enedigol.

“Nid oes gan Geredigion hanes da am gysylltedd digidol. Mae cysylltedd band eang wedi bod yn anghenraid, a dim yn ddewisol, i bobl yn yr oes fodern, ond mae cysylltedd gigabeit llawn i’r rhyngrwyd wedi’i gyfyngu i 37% o gartrefi o’i gymharu â 76% ar draws y DU, ac mae 10.7% o gartrefi Ceredigion yn derbyn cyflymder band eang o dan 10 megabeit yr eiliad – y ffigwr cyfatebol yn y DU yw 3.6% o gartrefi.

“Er bod gwelliant wedi bod yn y blynyddoedd olaf yma, mae mwy i’w wneud. Byddai hyn yn gymorth i sicrhau bod pobl yn gallu derbyn gwasanaethau hanfodol, sy’n fwyfwy ar-lein, ond gallai hefyd fod yn hwb i’r economi leol. Rwy’n falch iawn bod rhai cwmnïoedd yn edrych ar adleoli eu pencadlys i Geredigion, i’r pentrefi a’r trefi sydd â band eang gigabeit llawn, oherwydd os oedd ganddynt gysylltedd gigabeit llawn ddibynadwy, maent yn hapus i symud i orllewin Cymru – mae hyn yn fantais, a gallai fod yn dipyn o fantais i ni hefyd, os ydym o ddifrif am ddatblygu’r economi leol.

“Mae Project Gigabit – cynllun Llywodraeth y DU – wedi bodoli ers rhai blynyddoedd bellach, ond mae’r cynnydd wedi bod yn araf iawn. Yng Ngheredigion, rydym yn dal yn aros i wybod pa gartrefi fydd yn cael eu cysylltu yn rhan nesaf y cynllun, a bydd yn rhaid i’r rhai na fydd yn rhan o’r cynllun edrych am atebion eraill. Gorau gyd pwy gyntaf y cawn y wybodaeth yma gan fod safon bywyd a gwasanaethau y gellir eu derbyn gan y rhai heb gysylltedd dipyn yn waeth. Byddem yn ddiolchgar os gallem gael fwy o amlygrwydd a blaenoriaeth i gysylltedd mewn ardaloedd gwledig. Yn fwy penodol, efallai gallai Ysgrifennydd Gwladol awgrymu i’w gyd aelodau Cabinet i weithio o’r tu allan i mewn yn ystod cymal nesaf Project Gigabit, fel bod ardaloedd gwledig yn cael eu cysylltu gyntaf.

 

Yn ei ymateb, dywedodd David T C Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

“Soniodd yr aelod anrhydeddus dros Geredigion (Ben Lake) am gysylltedd gigabeit. Rwy’n cytuno ag ef bod angen sicrwydd am ble mae’n mynd i fod ac mae yna heriau mewn ardaloedd gwledig, ond hoffwn dynnu sylw mae 11% o gartrefi oedd â chysylltedd gigabeit yn 2019 ac mae hynny wedi codi i 69% erbyn hyn. Mae’r gwaith yn mynd yn ei flaen yn dda.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.