Beth mae Ben wedi'i wneud drosom ni?

Ers ei ethol yn Aelod Seneddol yn 2017, mae Ben wedi gweithio’n ddiflino ar ran ei etholwyr. Mae wedi cwblhau 5,000 darn o waith achos a chyfrannu dros 1,000 o weithiau yn San Steffan ers 2020.

Yn San Steffan, mae Ben wedi bod yn llefarydd uchel ei barch ar yr economi ac wedi cefnogi busnesau bach yng Ngheredigion; mae wedi bod yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig ac yn aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus; wedi cefnogi ymgyrch merched WASPI am gyfiawnder; wedi pleidleisio’n gyson o blaid gweithredu ar yr hinsawdd; wedi dal y banciau i gyfri am eu penderfyniadau i gau canghennau ac wedi lobïo’r rheoleiddwyr i sefydlu canolfannau bancio cymunedol; wedi llwyddo i wella cysylltedd band eang a ffôn symudol yng Ngheredigion; wedi gwrthwynebu cytundebau masnach sy’n niweidiol i ffermwyr Cymru; ac wedi ymladd am setliad ariannol tecach i wasanaethau cyhoeddus mewn ardaloedd gwledig.

Pwyllgorau

  • Mae Ben yn aelod hirsefydlog o’r Pwyllgor Materion Cymreig, lle mae o wedi craffu ar waith Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yng Nghymru. Fel aelod o’r pwyllgor, mae Ben hefyd wedi craffu ar ddarlledu, twristiaeth, bancio, cysylltedd digidol ac ynni gwynt ar y môr yng Nghymru.
  • Penodwyd Ben yn ddiweddar i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus dylanwadol, ac fel aelod o'r Pwyllgor mae Ben wedi craffu ar faterion yn ymwneud â’r Bil Rwanda, y Gwasanaeth Sifil, a HMRC.

Economi

  • Ben yw llefarydd Plaid Cymru ar yr economi yn San Steffan ac mae'r portffolio hwn wedi bod yn ganolog yn ei waith dydd i ddydd yn San Steffan. Eleni, galwodd am ariannu tecach i wasanaethau cyhoeddus yn ein hardaloedd gwledig, a galwodd ar y Llywodraeth i gyflwyno diwygiadau cynhwysfawr i drethi.
  • Mae Ben yn Gadeirydd y Grŵp Seneddol Trawsbleidiol ar Dlodi Tanwydd ac Effeithlonrwydd Ynni, sy'n hyrwyddo polisïau i ddarparu cynhesrwydd fforddiadwy i aelwydydd incwm isel a bregus. Mae Ben hefyd wedi cefnogi mesurau i helpu pobl gyda’r argyfwng costau byw – yn cynnwys sicrhau £200 i gartrefi oddi ar y grid.
  • Eleni, ymunodd Ben â grŵp trawsbleidiol a ysgrifennodd at y Financial Conduct Authority gan alw arnynt i lacio’r rheolau ynghylch canolfannau banciau cymunedol, a lansiodd ddeiseb yn galw am sefydlu Canolfannau Bancio Cymunedol i Geredigion. Fel aelod o’r Pwyllgor Materion Cymreig, bu hefyd yn holi Barclays, NatWest, Lloyds a HSBC ar wasanaethau bancio yng nghefn gwlad Cymru.

Iechyd

  • Er bod holl materion iechyd yng Nghymru wedi'u datganoli i'r Senedd yng Nghaerdydd, mae Ben wedi brwydro'n gryf dros wella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ar draws yr etholaeth, ac wedi galw am fwy o fuddsoddiad i'r Gwasanaeth Iechyd yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Mae wedi cyfarfod yn rheolaidd gyda'r Bwrdd Iechyd i drafod gwasanaethau iechyd meddwl, deintyddiaeth a  dyfodol ein meddygfeydd lleol, ac mae wedi ysgrifennu'n gyson at y Gweinidog Iechyd yn Llywodraeth Cymru ar ran ei etholwyr. 
  • Llynedd, lansiodd Ben y Grŵp Seneddol Trawsbleidiol ar Ganser y Coluddyn. Mae’r grŵp trawsbleidiol yn codi ymwybyddiaeth o’r clefyd, ac yn dod â grwpiau ymgyrchu, elusennau a sefydliadau anllywodraethol ynghyd i hyrwyddo’r materion sy’n bwysig i’r rheini y mae’r clefyd yn effeithio.
  • Eleni, pleidleisiodd Ben i wahardd fêps tafladwy a chodi oedran ysmygu yn y DU.
  • Pleidleisiodd Ben dros welliant i'r Mesur Dioddefwyr a Charcharorion eleni, a fyddai'n cyflymu'r iawndal i ddioddefwyr sgandal gwaed heintiedig y Gwasanaeth Iechyd.

Amgylchedd

  • Mae Ben wedi pleidleisio'n gyson yn erbyn cynlluniau'r Llywodraeth bresennol i niweidio ein hamgylchedd. Yn 2021, pleidleisiodd o blaid gwelliant i’r Bil Amgylchedd a fyddai wedi gorfodi cwmnïau dŵr i leihau gollwng carthion i afonydd a moroedd.
  • Yn ei rôl fel aelod o'r Pwyllgor Materion Cymreig, mae Ben wedi galw cwmnïau dŵr a rheoleiddwyr i gyfrif am ansawdd dŵr yng Nghymru. Cynhaliodd y Pwyllgor ymchwiliad hefyd i risgiau posibl llygredd o fwyngloddiau metel segur.
  • Mae Ben wedi pleidleisio’n gyson o blaid gwarchod yr amgylchedd, dros waharddiad ar ffracio, ac yn diweddar cyhoeddodd gynnig seneddol yn galw am waharddiad ar gloddio yn y môr dwfn.

Cysylltedd

  • Mae gwella cysylltedd digidol, yn cynnwys band eang a signal ffôn symudol wedi bod yn un o brif flaenoriaethau Ben ers cael ei ethol yn 2017 ac er bod mwy o waith i'w wneud, mae'r sefyllfa wedi gwella'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Mae cysylltiad band eang ffibr llawn yng Ngheredigion wedi cynyddu o 7% yn 2017 i 41.4% yn 2024.
  • Roedd Ben yn un o griw o Aelodau Seneddol trawsbleidiol sy'n cynrychioli etholaethau gwledig wnaeth lwyddo i sicrhau buddsoddiad gan Llywodraeth y DU i wella signal ffôn mewn ardaloedd gwledig - Shared Rural Network.

Trafnidiaeth

  • Mae Ben wedi gwrthwynebu’n gryf y toriadau llym i wasanaethau bysiau cyhoeddus yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys terfynu Gwasanaeth Bwcabus Fflecsi yn ne’r sir, a’r gostyngiad mewn gwasanaethau ar draws y sir. 
  • Mae Ben wedi galw ar Lywodraeth y DU i ddiwygio’r cynllun Gostyngiad Treth Tanwydd Gwledig i helpu ardaloedd yng Nghymru lle mae diffyg trafnidiaeth gyhoeddus wedi arwain at ddibyniaeth uwch ar ddefnyddio ceir ar gyfer teithiau hanfodol, a chyflwyno cynllun ad-daliad dros dro ar gyfer sectorau allweddol fel cludiant. a thrafnidiaeth gyhoeddus.
  • Yn ystod sesiwn dystiolaeth y Pwyllgor Materion Cymreig llynedd, heriodd Ben swyddogion Trafnidiaeth Cymru ynghylch y gwasanaethau rheilffordd diffygiol rhwng Aberystwyth a’r Amwythig.

https://www.facebook.com/watch/?v=294706366705041

https://www.youtube.com/watch?v=gBlI-RnsOvw

Amaethyddiaeth

  • Ym mis Ebrill, gwasanaethodd Ben ar bwyllgor i scritwnieddio'r Bil Cŵn (Diogelu Da Byw), gan rannu profiadau ffermwyr yn yr etholaeth sydd wedi dioddef ymosodiadau gan gŵn ar eu da byw.
  • Mae Ben wedi galw am gefnogaeth i fyd amaeth ar gostau ariannu ac ynni, ac wedi gwrthwynebu cytundebau masnach niweidiol fel bargeinion y DU-Awstralia a’r DU-Seland Newydd, gan alw ar y llywodraeth i barchu llais Cymru mewn unrhyw gytundebau masnach yn y dyfodol.
  • Yn gynharach eleni, defnyddiodd Ben ddadl i alw am gryfhau'r Cod Ymarfer Cyflenwi Nwyddau Groser. Cododd Ben bryderon ffermwyr yng Ngheredigion ynghylch costau mewnbwn uwch oherwydd chwyddiant, ac effaith arferion masnachu annheg gan fusnesau mawr ar ffermwyr.

Polisi Tramor

  • Mae Ben a’i gydweithwyr ym Mhlaid Cymru wedi galw’n gyson am gadoediad yn Gaza ac i ryddhau’r gwystlon ar unwaith ers i’r gwrthdaro ddechrau ym mis Hydref; maent wedi pleidleisio yn gyson i’r perwyl hwn.
  • Mae Ben hefyd wedi galw am Gynllun Visa Palestina, gan arwyddo cynnig seneddol i’r perwyl hwnnw ym mis Rhagfyr, a heriodd y gweinidog am y peryglon sy’n wynebu sifiliaid yn Rafah mewn dadl ym mis Mai.
  • Ar ddechrau’r rhyfel yn Wcrain, heriodd Ben yr Ysgrifennydd Cartref i hepgor gofynion fisa ar gyfer dinasyddion Wcrain, er mwyn sicrhau fod cymhwyster yn seiliedig ar eu gwerth cynhenid fel pobl, nid eu gwerth economaidd.

Addysg

  • Er bod addysg yng Nghymru wedi'i ddatganoli i'r Senedd yng Nghaerdydd, mae Ben wedi treulio tipyn o amser yn ymweld ag ysgolion ledled Ceredigion, i gwrdd â disgyblion, i'w haddysgu ar ei rôl fel Aelod Seneddol, ac i gwrdd gyda phenaethiaid i drafod yr heriau ariannol sy'n wynebu'r sector.
  • Yn dilyn y newyddion am doriadau i Brifysgol Aberystwyth, galwodd Ben ar Lywodraeth y DU i’w gwneud hi’n haws i brifysgolion ddenu myfyrwyr rhyngwladol. Ysgrifennodd Ben at yr Ysgrifennydd Cartref yn ei annog i gadw'r llwybr fisa ar gyfer graddedigion.
  • Mewn Dadl yn Neuadd San Steffan ym mis Medi, galwodd Ben ar Lywodraeth y DU i ystyried yr heriau a wynebir gan fyfyrwyr sy’n wynebu llety is-safonol oherwydd cyfyngiadau pris.

Cyfiawnder

  • Mae Ben wedi dadlau'n gyson dros ddiwygio polisi cyffuriau yn y dyfodol, gan weithio gyda'r Transform Drug Policy Foundation i ddiwygio'r Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau. Fel aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, cymerodd ran mewn ymchwiliad i leihau’r niwed o gyffuriau anghyfreithlon.
  • Ym mis Chwefror, siaradodd Ben mewn dadl i sicrhau iawndal ar unwaith i'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan Sgandal Gorwel Swyddfa'r Post, nid yn unig am yr arian a dalwyd ganddynt, ond am y niwed ariannol a phersonol a achoswyd i'w bywydau.

Mewnfudo

  • Mae Ben wedi gwrthwynebu polisïau mewnfudo llym y Torïaid yn gyson, gan bleidleisio yn erbyn Bil Rwanda a’r Mesur Ymfudo Anghyfreithlon ar bob achlysur.
  • Llynedd, cyflwynodd Ben a’i gydweithwyr ym Mhlaid Cymru welliant i’r Bil Ymfudo Anghyfreithlon a fyddai wedi sicrhau bod y Bil yn gyson ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fod yn ‘Genedl Noddfa.’

Cydraddoldebau

  • Mae Ben yn gefnogwr brwd o ymgyrch WASPI a menywod a aned yn y 1950au gafodd eu heffeithio gan y newid i Oed Pensiwn Gwladol. Siaradodd mewn dadl ym mis Mawrth 2024 i siarad o blaid y 5,000 o fenywod yng Ngheredigion sydd wedi'u geni yn y 1950au, gan alw ar y Llywodraeth i ddarparu iawndal i’r rheini a effeithiwyd.
  • Mae Ben wedi pleidleisio’n gyson i hyrwyddo hawliau’r gymuned LGBTQ+, gan bleidleisio o blaid priodas gyfunryw yng Ngogledd Iwerddon yn 2019, ac wedi arwyddo sawl cynnig seneddol yn galw am wahardd arferion therapi trosi.
  • Dros y bynyddoedd diwethaf, mae Ben wedi pleidleisio’n gyson i gefnogi yr hawl i erthyliad, gan bleidleisio dro ar ôl tro i warchod “buffer zones” ar gyfer darparwyr erthyliad.

 

I weld record pleidleisio Ben, ewch i: https://www.theyworkforyou.com/mp/25669/ben_lake/ceredigion

 

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.