Ar 22 Ebrill 2024, derbyniodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus dystiolaeth lafar ar gefnogi cysylltedd symudol. Rhoddwyd tystiolaeth gan Sarah Munby (Ysgrifennydd Parhaol yn yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg), Emran Mian CB OBE (Cyfarwyddwr Cyffredinol Digidol, Technoleg a Thelathrebu yn yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg), a Dean Creamer CBE (Prif Weithredwr Building Digital UK).
Mae Llywodraeth y DU wedi gosod targedau uchelgeisiol i'w hun i ddarparu cysylltedd symudol dibynadwy ledled y DU a chysylltedd band eang gigabit erbyn 2025, ond mae'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol wedi canfod bod y Rhwydwaith Gwledig a Rennir ar ei hôl hi, gyda thri allan o bedwar gweithredwr rhwydwaith y DU yn cyfaddef efallai na fyddant yn gallu darparu'r ddarpariaeth sydd ei hangen o fewn cyllid y grant presennol.
Yn 2021, rhybuddiodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus fod anghydraddoldeb digidol yn gwaethygu'r anghydraddoldeb economaidd a amlygwyd gan bandemig COVID-19. Daeth y Pwyllgor i'r casgliad nad oedd modd cyflawni addewid Llywodraeth y DU i ddarparu darpariaeth band eang gigabit ledled y wlad, ac y gallai'r adeiladau anoddaf eu cyrraedd gael trafferth gyda band eang sefydlog am flynyddoedd i ddod.
Yn ei gwestiwn i’r tystion, gofynnodd Ben Lake AS:
"Un peth allweddol i ni mewn ardaloedd gwledig yw gallu manteisio'n llawn ar well cysylltedd a'r cyfleoedd, yn gymdeithasol ac, yn bwysicach, yn economaidd, y mae'n eu cynnig i'n hardaloedd. Mae Adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn nodi, ar hyn o bryd, bod yr Adran yn "mynnu" bod gweithredwyr rhwydweithiau symudol yn bodloni isafswm trothwy perfformiad Ofcom yn 2018 ar gyfer darpariaeth 4G dda. Mae'r trothwy hwnnw'n alwad ffôn 90 eiliad a chyflymder llwytho i lawr o 2 Mbps. Mae hynny'n wych i fyd 2018, ond ar ôl Covid, nid yw o reidrwydd yn rhoi'r gallu i fusnesau neu unigolion gymryd rhan mewn galwadau fideo grŵp neu lawr lwythiadau data cyflym. Ar hyn o bryd, heb well cyflymderau rhyngrwyd, efallai na fydd rhai o'r buddion a grybwyllir yn yr achos busnes ar gyfer gweithio gartref, busnesau bach ac enillion cynhyrchiant, yn cael eu gwireddu. A ydych yn credu ei bod yn dderbyniol na fydd rhai o'r buddion a restrir yn yr achos busnes yn cael eu gwireddu mewn ardaloedd mwy gwledig, anghysbell?"
Wrth siarad ar ôl y sesiwn dystiolaeth, dywedodd Ben Lake AS:
"Yn rhy aml mae cymunedau gwledig yn cael eu hystyried fel ôl-ystyriaeth yng nghynlluniau buddsoddi'r Llywodraeth, ac mae'n arbennig o wir o ran gwella cysylltedd symudol a band eang. Mae angen blaenoriaethu ardaloedd gwledig, ac ardaloedd 'anodd eu cyrraedd' fel y'u gelwir os nad ydym am ddisgyn ymhellach y tu ôl i'n cymheiriaid trefol o ran cysylltedd digidol.
"Mae llawer o raglenni cysylltedd digidol Llywodraeth y DU wedi bodoli ers rhai blynyddoedd bellach, ond mae'r cynnydd mewn ardaloedd gwledig yn parhau i fod yn gymharol fach, fel bod y Llywodraeth mewn perygl o fethu â mynd i'r afael â'r anghydraddoldeb digidol a nodwyd gan y Pwyllgor yn ôl yn 2021. Roeddwn yn falch o allu mynegi fy mhryderon yn ystod sesiwn dystiolaeth yr wythnos hon a phwyso ar rhai sy'n gyfrifol am eu cynlluniau i wella cysylltedd mewn ardaloedd gwledig fel Ceredigion."