Bydd Ben Lake AS yn cymryd rhan mewn gweithdy ariannu rhithiol ar gyfer elusennau lleol, cymdeithasau gwirfoddol, a grwpiau cymunedol gyda’r People’s Postcode Lottery a CAVO.
Bydd y sesiwn yn rhoi cyngor i achosion da yng Ngheredigion ar sut i ymgeisio am gyllid er mwyn gwneud hyd yn oed mwy o wahaniaeth yn ein cymunedau.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar-lein drwy Zoom am 2 o’r gloch, ar ddydd Gwener, 10 Mai. Cysylltwch â [email protected] i fynychu.
Wrth edrych ymlaen at y digwyddiad, dywedodd Ben Lake AS:
“Mae’n amser caled ar bawb ar hyn o bryd, a byddai nifer o elusennau ac achosion da yng Ngheredigion ar eu hennill i dderbyn cefnogaeth ariannol. Felly, byddwn yn eu hannog i gofrestru ar gyfer y gweithdy er mwyn gweld pa gymorth sydd ar gael iddynt.
"Rwy’n ddiolchgar i’r People’s Postcode Lottery am eu cefnogaeth barhaus ac rwy'n gobeithio y bydd nifer o elusennau a grwpiau cymunedol yn medru mynychu’r digwyddiad.”