Ben Lake AS yn croesawu Mesur i gryfhau'r ddeddf i atal ymosodiadau ar dda byw

Yr wythnos hon (dydd Mercher, 24 Ebrill) daeth y Mesur 'Dogs (Protection of Livestock) (Amendment)' gam yn nes i ddod yn gyfraith, wrth iddo basio’r cam Pwyllgor yn Nhŷ’r Cyffredin yn llwyddiannus. 

Bu pwyllgor o ASau yn trafod y Mesur, a fydd, os caiff ei ddeddfu, yn cryfhau’r gyfraith mewn perthynas ag ymosodiadau gan gŵn ar dda byw. Mae’r Mesur, a gyflwynwyd gan Therese Coffey AS ar ôl i ddarpariaethau tebyg gael eu gollwng llynedd gan y Llywodraeth, yn gwneud newidiadau i’r hyn sy’n gyfystyr â throsedd o bryderu ac ymosod ar dda byw, yn ogystal â chynyddu’r pwerau sydd gan yr heddlu i ymchwilio i ymosodiadau. 

Mae’r Mesur yn ceisio cryfhau’r gyfraith bresennol sy’n dyddio o 1953 i atal achosion o ymosodiadau gan gŵn ar dda byw drwy sicrhau bod gan yr heddlu’r pwerau i gasglu’r DNA angenrheidiol a thystiolaeth fforensig arall i wneud yn siwr bod ymchwiliadau i ymosodiadau o’r fath yn fwy effeithiol, a bod euogfarnau yn fwy tebygol. Mae hefyd yn caniatáu i’r heddlu ymyrryd i atal rhagor o ymosodiadau gan gŵn o dan ofal perchnogion anghyfrifol. 

Gwasanaethodd Ben Lake AS fel un o aelodau Pwyllgor y Mesur. Yn ystod y ddadl, dywedodd Ben Lake AS: 

“Dros y blynyddoedd diwethaf, rwyf wedi gorfod siarad â gormod o ffermwyr sydd wedi dioddef ymosodiadau gan gŵn ar eu da byw. Mae'n deg dweud bod ymosodiadau o'r fath yn ddinistriol, nid yn unig i'r anifeiliaid dan sylw ond i'r teuluoedd a'r ffermwyr. Mae llawer wedi dweud wrthyf eu bod yn ofni edrych allan o'r ffenest gyda'r nos i weld eu da byw yn rhuthro o gwmpas yn ofni ymosodiad arall. Mae'n bwysig iawn bod y Mesur hwn wedi cyrraedd y cam yma, ac rwy'n llongyfarch yr aelod anrhydeddus am gyrraedd y man hwn." 

Mae’r Mesur yn nawr yn mynd yn ei flaen i’r camau olaf ar ddydd Gwener 17 Mai, lle gellir gwneud diwygiadau terfynol. 

Yn dilyn y Ddadl, dywedodd Ben Lake AS: 

Rwyf wedi bod yn codi effaith ofnadwy ymosodiadau gan gŵn ers i mi gael fy ethol yn AS Ceredigion, ac rwyf wedi gweithio gyda chydweithwyr o bob plaid wleidyddol ers 2019 i geisio sicrhau gwelliannau i’r gyfraith. 

"Am y rheswm hynny, rwy'n falch fy mod wedi cael fy ngalw i gyfrannu ar Bwyllgor y Mesur, a gweld y newidiadau yma yn nesáu at ddod yn gyfraith. Ni ddylid tanbrisio effaith poeni da byw ac ymosodiadau gan gŵn, nid yn unig ar yr anifeiliaid ond hefyd ar y ffermwyr a'u teuluoedd. Mae ymosodiadau diweddar gan gŵn yng Ngheredigion wedi cadarnhau'r angen i gryfhau’r gyfraith bresennol ar frys er mwyn sicrhau erlyniadau llwyddiannus, a phwerau ychwanegol i’r heddlu i atal ymosodiadau pellach. 

“Er bod y Mesur ymhell o fod yn berffaith, bydd yn gwneud gwelliannau sylweddol i’r gyfraith, ac rwy’n falch ei fod nawr gam yn agosach at gyrraedd y llyfr statud.” 

 

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.