Ben Lake yw ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer sedd newydd Ceredigion Preseli - sydd yn ymestyn o Aberteifi i Lanrhian ar hyd arfordir Sir Benfro, ac yn cynnwys wardiau mewndirol Crymych, Clydau, Maenclochog a Chilgerran.
Ers cael ei ethol yn Aelod Seneddol Ceredigion yn 2017, mae Ben wedi ennill enw da fel ymgyrchydd lleol egnïol sy’n barod i weithio ar draws llinell plaid er budd ei etholaeth a'i holl etholwyr. Cafodd ei enwi’n ‘Politician to Watch’ yng ngwobrau ITV yn 2017, ac yn 2019 fe’i enwebwyd yn AS y Flwyddyn.
Pam cefnogi Ben?
- Pencampwr cymunedau sy'n deall yr heriau a'r cyfleoedd yn ein hardaloedd gwledig;
- Unigolyn profiadol, dibynadwy ac uchel ei barch yn lleol ac yn San Steffan;
- Cynrychiolydd gweithgar ar lawr gwlad.
Blaenoriaethau Ben:
- Tegwch a chydraddoldeb i gymunedau cefn gwlad;
- Mwy o fuddsoddiad yn ein seilwaith trafnidiaeth a chysylltedd, i helpu adeiladu economi ffyniannus, gynaliadwy sy'n rhoi arian ym mhoced pobl leol, ac sy'n rhoi gwell cyfleoedd i bobl aros yng nghefn gwlad;
- Pecyn ariannu tecach ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus sy'n cydnabod anghenion penodol ardaloedd gwledig.
Dilyn Ben
Dilynwch Ben ar y safleoedd canlynol i gael clywed mwy ganddo: