Arolwg Bancio Cymunedol - Canlyniadau ac Adroddiad

Fel rhan o ymgyrch ehangach, cynhaliwyd arolwg bancio gan Ben Lake AS ar ddechrau'r flwyddyn i fudiadau elusennol a chymunedol yng Ngheredigion i gasglu eu profiadau hwy o fancio wyneb yn wyneb ac ar-lein. Cymerodd dros 120 o sefydliadau ran yn yr arolwg i rannu eu profiadau a'u pryderon o'r gwasanaeth maent yn ei dderbyn. O’r ymatebion, mae’n amlwg bod pobl yn anfodlon gyda’r gwasanaeth y mae banciau’n ei ddarparu ar hyn o bryd. Mae nifer yn rhwystredig eu bod yn colli’r cyswllt personol gyda’u banc wrth i ganghennau barhau i gau. Mae oriau agor cyfyngedig hefyd yn creu problemau i bobl ac mae nifer yn teimlo nad yw’r banciau'n deall anghenion cymunedau gwledig Cymru.

Rhai o'r ystadegau mwyaf arwyddocaol o'r adroddiad yw:

  • Dywedodd 95% o'r mudiadau sy'n talu ffioedd ar hyn o bryd nad oeddent yn credu bod y ffioedd wedi gwella'r gwasanaeth maent yn ei dderbyn gan eu banc.
  • Dywedodd 42% o'r mudiadau nad oedd ganddynt fynediad i fancio ar-lein
  • Doedd 69.1% o fudiadau ddim yn credu bod gan fanciau unrhyw ddealltwriaeth o anghenion mudiadau elsuennol a chymunedol.

I ddarllen yr adroddiad llawn a gweld holl ganfyddiadau'r arolwg, cliciwch YMA.

 

Rhai o brif argymhellion yr adroddiad oedd i agor canolfannau bancio cymunedol ar draws Ceredigion er mwyn
galluogi unigolion, busnesau a sefydliadau i gyflawni tasgau bancio wyneb i wyneb yn y lleoliadau hynny yn ogystal â newid oriau agor presennol i gynnwys dydd Sadwrn i wneud pethau’n haws i wirfoddolwyr. Bydd canlyniadau’r arolwg yn llywio trafodaethau Ben Lake AS gyda’r FCA ynglŷn ag effeithlonrwydd y Consumer Duty newydd ac yn help i adnabod y camau pellach y dylai'r rheoleiddiwr eu cymryd i sicrhau nad yw sefydliadau cymunedol yn cael eu hanghofio gan y sector bancio. 

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.