Mae’r banciau wedi bod yn cau canghennau yn lleol ac yn genedlaethol ers blynyddoedd bellach. Yn ôl ffigurau gan Gymdeithas Bancio Prydain a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae nifer y canghennau banc yng Nghymru wedi gostwng o 695 yn 2012 i 435 yn 2022. Yn anffodus, mae ardaloedd gwledig wedi cael eu heffeithio’n fawr gan hyn. Mae cyhoeddiadau diweddar gan y banciau i gau eu canghennau yn golygu na fydd gan rai fanciau unrhyw ganghennau ar ôl yng Ngheredigion.
Rydym wedi cyrraedd pwynt tyngedfennol. Er mwyn sicrhau bod mynediad gan bobl at wasanaethau bancio yn ein trefi credaf ei bod yn hen bryd sefydlu Canolfannau Bancio yng Ngheredigion. Mae Canolfan Bancio yn rhywle sy’n cynnig gwasanaethau bancio wyneb i wyneb gan amryw o ddarparwyr, ac yn caniatáu pobl i dalu arian i mewn a thynnu arian allan yn ogystal â chynnig cyngor a chymorth i bobl am faterion bancio mwy cymhleth.
Galwais am sefydlu Canolfannau Bancio am y tro cyntaf mewn bil a gyflwynais i’r Senedd yn 2018, ond mae cyhoeddiadau diweddaraf y banciau a’u penderfyniadau i gau canghennau yng Ngheredigion wedi pwysleisio’r angen dybryd am ganolfannau o’r fath er mwyn i’n cymunedau elwa ohonynt. Byddant yn sicrhau bod gan unigolion, busnesau, a sefydliadau cymunedol fynediad at wasanaethau bancio hanfodol. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am fy ngwaith a'm bwriadau ar y mater trwy glicio YMA.
Dros yr wythnosau nesaf, byddaf yn cyfarfod â'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) a Link i drafod y materion hyn ymhellach. Yn ystod y cyfarfodydd hyn byddaf yn pwyso arnynt i sefydlu Canolfannau Bancio yng Ngheredigion. I gryfhau fy achos, hoffwn ddangos bod cefnogaeth gref am Ganolfannau Bancio yma yng Ngheredigion a bod galw amdanynt gan drigolion lleol.
Arwyddwch y ddeiseb isod i ddangos eich cefnogaeth am Ganofannau Bancio Cymunedol i Geredigion heddiw.