Adroddiad yn dweud y gallai dileu fisa graddedigion gael ‘effaith anghyfartal ar economïau lleol a rhanbarthol y tu allan i Lundain a De-ddwyrain Lloegr’
Heddiw (dydd Mawrth 14 Mai) mae Ben Lake, AS Plaid Cymru dros Geredigion, wedi annog Llywodraeth y DU i gadarnhau y bydd fisa graddedigion yn parhau ar ôl i adroddiad gan y Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo (MAC) ddweud nad oes tystiolaeth eang bod visa ôl-astudiaeth ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol yn cael ei "gam-ddefnyddio".
Dywed yr adroddiad hefyd y gallai dileu’r fisa gael “effaith anghyfartal ar economïau lleol a rhanbarthol y tu allan i Lundain a De Ddwyrain Lloegr”. Dywedodd Mr Lake y byddai’n “ergyd i economi Ceredigion”
Ddydd Iau fe gyhoeddodd Prifysgol Aberystwyth yng Ngheredigion y byddai "newid sylweddol" i'r ffordd y mae'n gweithredu er mwyn arbed arian, yn dilyn effaith chwyddiant ar y sefydliad a’r "cwymp ym marchnadoedd recriwtio rhyngwladol".
Cyhoeddodd Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Jon Timmis, y bydd y brifysgol yn ceisio gweithredu “rhaglen drawsnewid” i gau’r bwlch o £15 miliwn y mae’n disgwyl ei wynebu dros y flwyddyn nesaf. Amcangyfrifir y gallai'r rhaglen hon leihau nifer y staff o 8-11%, ac mae’n debygol o effeithio ar rhwng 150 a 200 o swyddi. Mae’r Undeb Prifysgolion a Cholegau wedi dweud y bydd yr effaith ar Aberystwyth ac ar draws Ceredigion “yn sylweddol o ystyried pwysigrwydd economaidd a diwylliannol y brifysgol yn y rhanbarth”.
Cyfeiriodd yr Athro Timmis at chwyddiant uchel, ffioedd myfyrwyr domestig sydd wedi aros yn eu hunfan, a'r dirywiad mewn recriwtio rhyngwladol fel ffactorau allweddol sydd wrth wraidd y diffyg yma.
Ysgrifennodd Ben Lake at yr Ysgrifennydd Cartref ddydd Gwener, i'w annog i ystyried effaith cael nifer is o fyfyrwyr rhyngwladol ar sefydlogrwydd ariannol prifysgolion, ac i gynnal y visa i raddedigion.
Dywedodd Ben Lake AS Ceredigion:
“Rwy’n croesawu cyngor pendant y Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo i Lywodraeth y DU i gadw’r fisa graddedigion. Byddai ei ddileu yn niweidio prifysgolion fel Aberystwyth, sydd eisoes yn wynebu argyfwng ariannol, yn anadferadwy.
“Mae’r adroddiad yn nodi y gallai cael gwared ar y llwybr effeithio’n anghymesur ar economïau lleol a rhanbarthol y tu allan i Lundain a De-ddwyrain Lloegr, a byddai’n sicr yn ergyd i economi Ceredigion.
“Dylai’r Swyddfa Gartref dderbyn y cyngor yn llawn a chadarnhau y bydd yn cynnal y fisa graddedigion.”