Bu Cefin Campbell, Aelod o'r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn arwain teyrngedau yn y Senedd i'r Royal National Lifeboat Institution (RNLI), wrth i'r elusen ddathlu 200 mlynedd ers ei sefydlu'r wythnos hon.
Ers ei sefydlu ar y 4ydd o Fawrth 1824, mae gwirfoddolwyr yr RNLI wedi achub bron i 150,000 bywyd ym Mhrydain Fawr a’r Iwerddon. Mae’n rhedeg 238 gorsaf bad achub ar draws Prydain Fawr a’r Iwerddon ar hyn o bryd. Mae’n cael ei gyllido’n llawn gan gyfraniadau gan y cyhoedd a gweithgareddau codi arian, gyda’r mwyafrif o’r criwiau bad achub yn wirfoddolwr di-dâl.
Yng Nghymru, mae’r bad achub wedi bod allan dros 47,000 gwaith dros y 200 mlynedd olaf - gan achub tua 13,000 ar y môr.
Mae ardal Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cael ei gynrychioli gan Cefin Campbell AS – sy’n cynnwys Sir Gâr, Sir Benfro, Ceredigion a Gwynedd – yn cynnwys cyfanswm o un ar bymtheg gorsaf bad achub RNLI – gan gynnwys Porth Tywyn, Dinbych y Pysgod, y Borth a Phorthdinllaen.
Wrth siarad yn y Senedd, talodd Cefin Campbell deyrnged i waith caled ac anhunanol gwirfoddolwyr yr RNLI:
“Bob wythnos o Ddinbych y Pysgod i Abergwaun, Cei Newydd i’r Borth ac Aberdyfi i Abersoch, mae cannoedd o wirfoddolwyr yn rhoi o’u hamser i hyfforddi i achub bywyd ar y môr. Pan fyddant yn cael eu galw, hyd yn oed yng nghanol nos neu ganol gaeaf, nid yw’r gwirfoddolwyr hynny byth yn ymatal rhag ymateb i alwad, gan roi eu cysur a’u diogelwch yn y fantol er mwyn dod ag eraill i’r lan.
"Hoffwn felly ddefnyddio’r cyfle yma wrth ddathlu’r 200 mlynedd i ddatgan fy niolch, i’r gwasanaeth a roddwyd gan wirfoddolwyr presennol a blaenorol, a’m gwerthfawrogiad i’r teuluoedd a’r cymunedau sy’n eu cefnogi nhw.”
Talwyd teyrngedau i’r RNLI yn San Steffan hefyd gan Ben Lake AS Plaid Cymru, a noddwr y cynnig i ddathlu’r 200 mlwyddiant. Nododd:
“Hoffwn ddiolch i’r RNLI am eu gwaith amhrisiadwy ar hyd arfordir Cymru ar hyd y flwyddyn. Rydym yn lwcus i gael criwiau a gwasanaethau anhygoel yma yng Ngheredigion – ac ni allwn dan bwysleisio gwerth a phwysigrwydd y gwaith anhunanol hwn. Hoffwn longyfarch yr elusen ar gyrraedd y garreg filltir arbennig yma, a dymuno yn dda iddynt i’r dyfodol.”