
Mae tro pedol WASPI y Llywodraeth yn ‘bradu ymddiriedaeth y cyhoedd' – Ben Lake AS
Yn ystod PMQs heddiw (dydd Mercher 18 Rhagfyr), amlygodd AS Plaid Cymru dros Geredigion Preseli, Ben Lake, frad Llywodraeth Lafur y DU i ymgyrch y menywod a aned yn y 1950au dros gyfiawnder, yn dilyn eu penderfyniad i wrthod argymhellion yr Ombwdsmon Seneddol ynghylch y newidiadau i oedran pensiwn gwladol.
Atgoffodd Mr Lake y Tŷ bod y Prif Weinidog ei hun wedi galw am “iawndal teg a chyflym” i fenywod WASPI nol yn 2022. Ond eto, chwe mis yn unig ers i Lafur ffurfio Llywodraeth newydd, mae'r addewid hwnnw yn cael ei adael, gan adael i’r menywod a effeithiwyd barhau i ysgwyddo baich ariannol ac emosiynol yr anghyfiawnder hwn.
Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin, Ben Lake AS:
“Yn 2022, cefnogodd y Prif Weinidog alwadau am ‘iawndal teg a chyflym’ i fenywod y 1950au yr effeithiwyd arnynt gan y newidiadau i bensiwn gwladol. Ac eto, dim ond ddoe, gwrthododd ei Lywodraeth yr union alwadau hynny. Mr Llefarydd, ai dymaroedd y Prif Weinidog yn ei feddwl pan addawodd arwain ‘Llywodraeth o newid’?”
Wrth siarad ar ôl y sesiwn, ychwanegodd Ben Lake AS:
“Rwy’n siomedig iawn gyda phenderfyniad y Llywodraeth i wrthod galwadau am iawndal i fenywod a aned yn y 1950au yr effeithiwyd arnynt gan newidiadau oedran pensiwn y wladwriaeth. Mae nifer fawr o fenywod yng Ngheredigion Preseli wedi cysylltu â mi mi am y mater hwn ac rwy’n ddiolchgar i'r grwpiau lleol am eu gwaith ymgyrchu diflino i frwdro dros gyfiawnder.
“Mae’n fwy o syndod fyth o ystyried y gefnogaeth a fynegwyd gan y Prif Weinidog ac aelodau o’i Lywodraeth tra'n wrthblaid. Mae troi eu cefnau ar y menywod hyn yn bradu eu hymddiriedaeth yn y Llywodraeth a bydd ymateb y Prif Weinidog yn cynnig fawr o gysur iddynt.
“Ni ellir gorbwysleisio effaith ariannol ac emosiynol yr anghyfiawnder hwn, a byddaf yn parhau i bwyso ar y Llywodraeth i ailystyried eu penderfyniad er mwyn sicrhau bod y menywod hyn yn cael y tegwch a’r cyfiawnder maent yn eu haeddu."