Newyddion diweddaraf
Araith y Brenin: Plaid Cymru yn cyflwyno gwelliant i sicrhau cyllid teg i wasanaethau cyhoeddus Cymru
Dywed Ben Lake AS fod y blaid yn ‘wrthblaid ddifrifol ac adeiladol’ i Lywodraeth Lafur y DU
Heddiw (dydd Mawrth 16 Gorffennaf) mae llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Ben Lake AS, wedi cyflwyno gwelliant i Araith y Brenin i roi gwasanaethau cyhoeddus Cymru “yn ôl ar sylfaen gynaliadwy” trwy fformiwla ariannu sy’n seiliedig ar angen.
Darllen mwy
Plaid Cymru yn annog adfer cyllid i asiantaeth ffoaduriaid Palesteinaidd y Cenhedloedd Unedig ar unwaith
Ben Lake AS wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Tramor yn annog adfer cyllid UNRWA y DU
Mae Ben Lake AS, Llefarydd Plaid Cymru ar Faterion Tramor, wedi galw heddiw (dydd Iau 11 Gorffennaf) ar David Lammy AS, yr Ysgrifennydd Gwladol Tramor, y Gymanwlad a Materion Datblygu newydd, i adfer cyllid i’r United Nations Relief and Works Agency for Palestine Refugees in the Near East (UNRWA) ar frys. Daw’r apêl mewn ymateb i’r argyfwng dyngarol difrifol sy’n dod i’r amlwg yn Gaza.
Darllen mwy
Ben Lake wedi’i ethol yn AS dros Geredigion Preseli
Yn ystod oriau mân fore Gwener (5 Gorffennaf), cyhoeddwyd mai Ben Lake fydd yr Aelod Seneddol dros Ceredigion Preseli. Ni gydymffurfiodd etholaeth Ceredigion Preseli gyda thueddiad gweddill y DU i bleidleisio dros Lafur ac enillodd Plaid Cymru o fwyafrif o 14,789.
Darllen mwy